PIRLS26 Cymru

  • Ynglŷn â PIRLS
  • I ysgolion
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Cymorth i Gydlynwyr Ysgol
  • I rieni a gwarcheidwaid
  • Canfyddiadau ymchwil PIRLS
  • Y Tîm
  • Diogelu data
  • Cysylltu â ni
  • Pearson UK home >
  • PIRLS26 >
  • Diogelu data .

Diogelu data

Dewis iaith:
  • Cymraeg Opens Welsh translation of website
  • English Opens English translation of website

Pa wybodaeth a gaiff ei chasglu a pham?

Mae Pearson UK a'i bartneriaid yn OUCEA wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth PIRLS 2026 yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae preifatrwydd a diogelwch data'r bobl ifanc a'r ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw yn bwysig iawn i ni ac ni fydd modd adnabod unrhyw ddisgybl, athro, pennaeth nac ysgol unigol mewn unrhyw adroddiadau.

Byddwn yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae disgyblion wedi'i ddysgu am lythrennedd darllen o'u hatebion i gwestiynau asesiad PIRLS. Byddwn hefyd yn eu holi am wybodaeth gyd-destunol, megis cwestiynau am eu bywyd gartref a'u diddordeb mewn darllen. Os bydd unrhyw gwestiynau na fydd disgyblion am eu hateb, gallant eu gadael yn wag.

Byddwn yn defnyddio manylion ysgolion, penaethiaid ac athrawon i bersonoli deunyddiau astudio ysgolion ac i ohebu ag ysgolion drwy gydol y project. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau i athrawon a phenaethiaid ysgolion sy'n cymryd rhan am eu hysgol, strategaethau addysgu ac amgylchedd dysgu'r ysgol.

Ni fyddwn yn cyhoeddi'r atebion i unrhyw gwestiwn, ac ni fydd modd adnabod unrhyw ddisgybl, ysgol, athro na phennaeth mewn unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad.

Dyma enghreifftiau o'r math o gwestiynau a gaiff eu cynnwys yn astudiaeth PIRLS a'r holiaduron cyd-destun i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion.

Edrychwch ar enghreifftiau o gwestiynau a holiaduron cyd-destun a ddefnyddir yn astudiaeth PIRLS

Sut rydym yn defnyddio data personol

At ddibenion y gwaith ymchwil hwn, bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr cymeradwy yn cysylltu'r wybodaeth â gwybodaeth arall sydd gan y llywodraeth eisoes (megis ar y Gronfa Ddata Genedlaethol o Ddisgyblion) neu y gellir cael gafael arni'n gyfreithlon o ffynonellau eraill. Diben hyn yw osgoi gofyn i gyfranogwyr dro ar ôl tro am wybodaeth sydd gennym eisoes a gallu dadansoddi manteision tymor hwy dysgu cynnar. Mae hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Hysbysiadau preifatrwydd llawn

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer PIRLS 2026:

Hysbysiad Preifatrwydd - Cymraeg

Privacy notice - English

Llywodraeth Cymru Welsh Government
Pearson
IEA PIRLS
UCL
  • Educators
  • Learners
  • Industry and Professionals
  • About us
  • Shop
  • Contact us
  • Where we are
  • The PEL board
  • Careers
  • News and policy
  • Global Rights Licensing
  • Global Permissions
  • Accessible content
  • Authors
  • Retail Partners

Related sites

  • Qualifications
  • Schools & FE Colleges
  • Corporate & Investors
  • Privacy Notice
  • Cookies
  • Legal Statement
  • Accessibility
  • Modern Slavery Act