Bydd y broses gyfan yn cymryd tua 2 awr, gan gynnwys y cyflwyniad, yr asesiad ac egwyl. Nid oes angen i ddisgyblion baratoi ymlaen llaw nac adolygu. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anelu at gwblhau'r astudiaeth yn y bore, ond gallwn wneud trefniadau i ddechrau'n hwyrach yn ystod y diwrnod ysgol er mwyn cyd-fynd ag amserlenni'r ysgol.
Bydd Gweinyddwr y Prawf yn cyrraedd o leiaf awr cyn yr amser dechrau a ddewiswyd gennych er mwyn paratoi'r ystafell. Dylai Cydlynydd yr Ysgol (athro i gynrychioli'r ysgol a fydd yn cefnogi'r broses gyflawni) anelu at gyrraedd ar yr un pryd. Byddem yn gwerthfawrogi lle parcio ar safle'r ysgol, os oes lleoedd parcio ar gael.
Os caiff dau ddosbarth eu dewis yn yr ysgol, gallwn asesu'r ddau ar yr un pryd, neu un dosbarth yn y bore ac un ar ôl cinio, er mwyn defnyddio'r cyfleusterau TG yn y ffordd orau. Bydd Tîm Cymorth PIRLS yn rhoi arweiniad i ysgolion sydd â dau ddosbarth.