I rieni a gofalwyr
Beth sy'n digwydd fel rhan o PIRLS?
I'ch plentyn, mae asesiad PIRLS yn cynnwys cymryd rhan yn y canlynol:
- Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â darllen.
- Holiadur cefndir yn holi am ei fywyd, ei ysgol a'i brofiadau dysgu.
Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith adolygu ymlaen llaw er mwyn i'ch plentyn allu cwblhau'r asesiad.
Beth yw manteision PIRLS?
Mae cymryd rhan yn PIRLS yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ddisgyblion, ac yn ehangach i addysg yn y DU.
- Bydd eich plentyn yn cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
- Bydd eich plentyn yn cael profiad o gynrychioli Cymru mewn astudiaeth ryngwladol ac yn cael tystysgrif am wneud hynny.
- Bydd eich plentyn yn cael y cyfle i ymarfer ei sgiliau darllen drwy asesiad ar-lein diddorol ac arloesol.