Un o ddibenion pwysig PIRLS yw deall ffactorau sy'n ymwneud â'r gymuned, yr ysgol a'r disgyblion sy'n dylanwadu ar gyflawniad darllen.
Gofynnir i aelod o Dîm Arwain yr Ysgol neu'r Pennaeth gwblhau Holiadur i Ysgolion fel rhan o astudiaeth PIRLS er mwyn darparu gwybodaeth am gyd-destun yr ysgol. Caiff cyfarwyddiadau a manylion mewngofnodi eu darparu drwy e-bost, i'w dosbarthu i'r person perthnasol.
Hefyd, gofynnir i athro/athrawon Blwyddyn 5 y dosbarthiadau a gaiff eu hasesu gwblhau Holiadur i Athrawon. Mae'r holiadur yn gofyn am addysg yr athro, ei ddatblygiad proffesiynol a'i brofiad addysgu. Mae hefyd yn holi am addysgeg, parodrwydd disgyblion i dderbyn cyfarwyddyd ac arferion asesu ar gyfer darllen.