Mae Pearson UK a'i bartneriaid yn OUCEA wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth PIRLS 2026 yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyda'i gilydd, nhw yw Canolfan Genedlaethol yr Astudiaeth ar gyfer Cymru.
Dr Grace Grima
Rheolwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer PIRLS26
Cyfarwyddwr, Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr
Rôl: Bydd Grace yn arwain y tîm craidd yn Pearson, a fydd yn cynnal PIRLS mewn ysgolion. Bydd hefyd yn cydweithio â'r tîm o Brifysgol Rhydychen sy'n gyfrifol am y gwaith dadansoddi, adrodd a dosbarthu. Grace fydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal PIRLS yng Nghymru, gan sicrhau y caiff holl dasgau PIRLS eu cyflawni ar amser ac yn unol â'r safonau rhyngwladol a nodwyd.
Cefndir: Yn ei rôl bresennol yn Pearson, mae Grace yn arwain astudiaethau asesu eraill yn ei rôl fel Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer PIRLS21 a TIMSS23 yn Lloegr a hi yw'r Rheolwr Project Cenedlaethol ar gyfer PISA25 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn flaenorol, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y Weinyddiaeth Addysg a Chyflogaeth yn Malta, roedd Grace yn gyfrifol am gyflwyno a gweithredu'r holl brojectau asesu rhyngwladol, gan gynnwys PIRLS, ac am ddiweddaru fframwaith y cwricwlwm cenedlaethol. Cyn hynny, yn Seland Newydd, bu'n gweithio ar Broject Monitro Addysgol Cenedlaethol (NEMP). Dechreuodd Grace ei gyrfa fel athrawes, hyfforddwr athrawon a phrif swyddog ymchwil ym mwrdd arholi Prifysgol Malta.
Sarah Turner
Rheolwr Project, Rheolwr Addasu a Rheolwr Sgorio
Arweinydd Cyflawni, Pearson
Rôl: Bydd Sarah yn cydlynu'r gwaith o addasu deunyddiau ac yn rheoli'r gwaith o sgorio ymatebion.
Cefndir: Mae gan Sarah dros 15 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ystod o gymwysterau ac offerynnau asesu risg uchel yn weithredol o'r dechrau i'r diwedd. Roedd hyn yn cynnwys pum mlynedd yn arwain y tîm TGAU Astudiaethau Crefyddol a oedd yn gyfrifol am farcio dros 250,000 o sgriptiau arholiad yn gywir a rheoli tîm o 1000 o farcwyr yn ystod y gyfres arholiadau pob haf. Sarah fu'n rheoli'r gwaith sgorio ar gyfer PIRLS21 a TIMSS23 a hi yw'r Dirprwy Reolwr Project Cenedlaethol ar gyfer PISA 2025.
Kate Miller
Rheolwr Project Arweiniol ar gyfer PIRLS 2026
Rheolwr Project, Pearson
Rôl: Rheolwr Project, yn gyfrifol am reoli elfennau'r contract y mae angen eu cyflawni.
Cefndir: Rheolwr project cymwys ac ymarferydd PRINCE2 effeithiol â thros chwe blynedd o brofiad yn gweithio ar gontractau i'r Adran Addysg. Rheolodd Kate TIMSS19 a PIRLS21 yn llwyddiannus (o 2019), PISA22 (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon), TIMSS23 yn Lloegr, a PISA25 (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Mish Mohan
Rheolwr Data a Samplu Cenedlaethol
Arweinydd Cyflawni, Pearson
Rôl: Bydd Mish yn goruchwylio gweithgareddau sy'n ymwneud â systemau cyflawni asesiadau, samplu a thrin data.
Cefndir: Mae gan Mish dros 15 mlynedd o brofiad gyda Pearson, mewn rolau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithrediadau a datblygu TG. Roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS16 a PIRLS21, TIMSS21, gan sicrhau strategaeth samplu, ffrâm samplu a threfniadau cyflwyno data llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar PISA25 (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon).
Alistair Hooper
Rheolwr Recriwtio a Dirprwy Reolwr Data
Arweinydd Cyflawni, Pearson
Rôl: Bydd Alistair yn cydlynu gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw ysgolion a bydd yn cefnogi'r gwaith rheoli data.
Cefndir: Mae Alistair wedi bod yn gweithio i Pearson ers dros 10 mlynedd. Roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS21, ac yn Rheolwr Recriwtio ar gyfer TIMSS23 a PISA25. Mae wedi gweithio mewn sawl agwedd wahanol ar astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys samplu, rheoli data, cyfieithu/addasu, recriwtio a chadw ysgolion, recriwtio Cydlynwyr Ysgol a Gweinyddwyr y Prawf, yn ogystal â hyfforddi a chodio.
Lucian Lanteri
Rheolwr Gweinyddwyr y Prawf
Arweinydd Cyflawni, Pearson
Rôl: Bydd Lucian yn cydlynu'r gwaith o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr y Prawf.
Cefndir: Mae gan Lucian dros 17 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ac asesu cymwysterau lle mae llawer yn y fantol, gan gynnwys fel Pennaeth Asesu pynciau dyniaethau TAG a TGAU yn Pearson am naw mlynedd. Mae gan Lucian brofiad o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr y Prawf ar gyfer PISA22, PISA25 a TIMSS2023.
Beth Ryan
Arweinydd Cymorth Cyflawni PIRLS26, Pearson
Rôl: Mae Beth yn cefnogi'r gwaith o gyflawni project PISA25 a bydd hefyd yn cefnogi ysgolion ar broject PIRLS.
Cefndir: Mae Beth wedi gweithio yn Pearson ers tair blynedd, fel Rheolwr Ansawdd a Dadansoddwr Gweithdrefnau Mewnol yn flaenorol gan oruchwylio sawl tîm a oedd yn cyflawni asesiadau a chymwysterau risg uchel. Mae'n arbenigo mewn gwella prosesau ac mae wedi bod yn gweithio i symleiddio prosesau i Gydlynwyr Ysgol ers symud i'r Tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr ym mis Hydref 2023.
Adrian Brown
Goruchwyliwr Recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr ar gyfer PIRLS26
Pennaeth Rheoli Swyddogion Cyswllt, Pearson
Rôl: Bydd Adrian yn cydlynu gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr.
Cefndir: Mae Adrian yn weithiwr proffesiynol profiadol sy'n gyfrifol am recriwtio Gweinyddwyr y Prawf a Chodwyr a gweithgareddau cysylltiedig, yn ogystal â sicrhau bod gan Pearson yr adnoddau i gyflawni gweithgareddau marcio. Mae hefyd wedi goruchwylio'r trefniadau recriwtio blaenorol ar gyfer astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys PIRLS21, PISA22, TIMSS23 a PISA25.
Jon Wood
Cyfarwyddwr Prosesu ar gyfer PIRLS26
Cyfarwyddwr Prosesu Cymwysterau, Pearson
Rôl: Bydd Jon yn gyfrifol am ddarparu'r deunyddiau profi a'r holl weithgareddau allweddu yn ddiogel; gan oruchwylio'r rolau prosesu.
Cefndir: Mae Jon wedi bod yn Gyfarwyddwr Prosesu Cymwysterau ar safle Hellaby ers 2015, ac mae'n goruchwylio gweithrediadau a phrosesau rheoli staff. Mae gweithrediadau Hellaby yn sganio ac yn prosesu dros 10 miliwn o ganlyniadau bob blwyddyn ar gyfer Cymwysterau Cyffredinol, Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Rhyngwladol yn unol â gofynion amser, ansawdd a gwasanaeth. Mae gweithrediadau Hellaby yn sganio ac yn prosesu dros 10 miliwn o ganlyniadau bob blwyddyn ar gyfer Cymwysterau Cyffredinol, Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Rhyngwladol yn unol â gofynion amser, ansawdd a gwasanaeth.
Simon Abrams
Cydlynydd TG (TGCh) ar gyfer PIRLS26
Rheolwr Rhanbarthol Cymorth wrth y Ddesg, Pearson
Rôl: Bydd Simon yn goruchwylio'r systemau TG sydd eu hangen i gynnal PIRLS. Bydd yn sicrhau bod y systemau yn addas i gynnal yr asesiadau, yn gweithio gyda'r Contractwr Rhyngwladol i roi asesiad cyfrifiadurol all-lein priodol ar waith, ac yn monitro'r broses o roi PIRLS ar waith.
Cefndir: Mae gan Simon dros 14 blynedd o brofiad yn gweithio i ddarparu cymorth technegol ac atebion TG arloesol a diogel yn Pearson. Ef yw Rheolwr Rhanbarthol cymorth wrth y ddesg yn Pearson ac mae'n rheoli nifer o dimau cymorth trydydd llinell mewn rhannau amrywiol o'r DU. Mae wedi rheoli'r gwaith o ddatblygu systemau TG ar gyfer TIMSS23 a PISA25 a'u rhoi ar waith.
Dr Liyuan Liu
Dadansoddwr Data
Rôl: Mae Liyuan yn gyfrifol am ddadansoddi data mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen.
Cefndir: Mae gan Liyuan brofiad helaeth o ymdrin â setiau data amrywiol, rhyngwladol ar raddfa fawr, gan gynnwys data Arolwg Gwerthoedd y Byd, Astudiaeth Addysg Ddinesig a Dinasyddiaeth Ryngwladol (2009, 2016), Arolwg Cymdeithasol Ewrop, Ewrobaromedr, OECD, PISA, TIMSS, PIRLS, a Banc y Byd. Mae'n meddu ar ddealltwriaeth ddofn o ddulliau ymchwil meintiol, gan ddefnyddio adnoddau megis Modelu Hafaliad Strwythurol ac Atchweliad Llinol Lluosog yn R, SPSS, IEA IDB Analyzer, a Modelu Aml-lefel yn MLwin.
Dr Sebastian Nastuta
Dadansoddwr Data
Rôl: Mae Sebastian yn gyfrifol am ddadansoddi data mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen.
Cefndir: Mae Sebastian yn gweithio fel Gwyddonydd Data ac yn dadansoddi data asesiadau. Bu'n addysgu ystadegau cymdeithasol mewn adran Cymdeithaseg yn flaenorol ac mae ganddo brofiad helaeth o ddadansoddi setiau data ar raddfa fawr, megis Arolwg Gwerthoedd y Byd ac Arolwg Gwerthoedd Ewrop, Rhaglen yr Arolwg Cymdeithasol Rhyngwladol, PISA a TIMSS. Mae Sebastian yn gallu defnyddio R, SPSS, STATA ac IEA IDB Analyzer yn fedrus.
Dr Ariel Lindorff
Prif Ymchwilydd yr Ymchwil
Rôl: Fel y Prif Ymchwilydd, bydd gan Ariel rôl arweiniol o ran cynllunio ac ysgrifennu'r adroddiad cenedlaethol a goruchwylio cyfeiriad ac ansawdd y gwaith dadansoddi data, a bydd yn arwain y gwaith o gynllunio a gweithredu'r camau dosbarthu. Bydd yn aelod o Fwrdd y Project a bydd yn gyfrifol am gadeirio a threfnu cyfarfodydd y Grŵp Cynghori.
Cefndir: Mae Ariel wedi arwain a chyfrannu at ystod eang o brojectau ymchwil yn yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, gan amrywio o astudiaethau achos ar raddfa fach o fentrau gwella addysg i ddadansoddiadau ar raddfa fawr o ddata eilaidd (gan gynnwys profiad gyda'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Ddisgyblion o fewn y Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel a'r tu allan iddo). Bu Ariel yn arwain y gwaith dadansoddi a dosbarthu ar gyfer PIRLS21, a hi oedd prif awdur Adroddiad Cenedlaethol Lloegr.
Dr Velda Elliott
Ymchwilydd ar y Cyd
Rôl: Fel yr Ymchwilydd ar y Cyd, bydd Velda yn ymwneud â chynllunio ac ysgrifennu allbynnau ar gyfer y project, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â pholisi Lloegr a goblygiadau i bolisi Lloegr (e.e. pennod y gwyddoniadur a phennod polisi'r adroddiad cenedlaethol). Bydd yn chwarae rôl hanfodol, ochr yn ochr â mewnbwn gan y Grŵp Cynghori, yn argymhellion y tîm ymchwil mewn perthynas ag eitemau posibl i'w hychwanegu at holiaduron cyd-destun yn Cymru ynghyd â chyfarwyddiadau ar gyfer dadansoddiadau thematig ychwanegol.
Cefndir: Mae Velda yn academydd blaenllaw ym maes Saesneg mewn Addysg ac mae'n arbenigo mewn asesu yn Saesneg. Mae wedi ennill gwobrau niferus am ei chyfraniadau at y maes. Mae Velda wedi cyhoeddi'n eang ym maes Addysg Saesneg ac Asesu Addysgol ac mae'n aelod o fyrddau golygyddol Oxford Review of Education ac English in Education.
Jamie Stiff
Dadansoddwr Data
Rôl: Prif gyfrifoldebau Jamie fydd gwneud y gwaith dadansoddi sydd ei angen a chyfrannu at y gwaith o ysgrifennu'r adroddiad cenedlaethol a'r dadansoddiad thematig.
Cefndir: Ar hyn o bryd, mae Jamie yn ymgymryd ag ymchwil DPhil sy'n ystyried y rôl y mae hyfedredd darllen yn ei chwarae o ran perfformiad disgyblon mewn asesiadau cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 2) a rhyngwladol (TIMSS) o fathemateg cynradd. Ers mis Mehefin 2017, mae wedi gweithio fel ymchwilydd yng Nghanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA). Ef oedd cyd-awdur Adroddiad Cenedlaethol Lloegr ar gyfer PIRLS16 a PIRLS21.