• Disgwyliadau Uchel: manteision profiad PISA

    Os yw eich ysgol yn cymryd rhan yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA ) yr OECD, yna efallai eich bod yn meddwl tybed beth gallwch ei ddisgwyl o'r profiad? Fel y dywedwn ym Mlog 1 o'r gyfres hon, gall PISA ein helpu i rannu dealltwriaeth o dueddiadau a newidiadau ym maes addysg ledled y byd: darlun cyfannol o'r ffordd y mae addasiadau dysgu yn digwydd, wrth iddynt ddigwydd.

    read more
  • Pam mae PISA 2025 yn bwysig i ysgolion

    Nid dim ond prawf arall i ysgolion sy'n digwydd bob tair blynedd yw Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yr OECD. Mae gan PISA nod addysgol dilys: nid yn unig archwilio'r hyn y mae disgyblion 15 oed yn ei wybod mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg tuag at ddiwedd eu cyfnod mewn addysg orfodol, ond yn hanfodol, beth y gallant ei wneud â'r wybodaeth honno. Mae'r data a gaiff eu casglu fel rhan o astudiaethau PISA (drwy brofion ac arolygon ar ffurf holiadur) yn cynnig cyfle i'r gwledydd sy'n cymryd rhan ddysgu o bolisïau ac arferion mewn gwledydd eraill ac i fonitro newidiadau a thueddiadau mewn addysg dros amser yn y tri maes a restrir uchod. Er enghraifft, gall data o'r fath ein helpu i ddeall effaith pandemig COVID-19 ar ddysgu a chyrhaeddiad; a sut mae disgyblion yn defnyddio adnoddau digidol.

    read more