PISA25
Beth yw PISA?
Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd, ac mae'n cynnwys ysgolion a disgyblion mewn dros 90 o wledydd. Caiff PISA ei chynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) bob tair blynedd. Mae'r astudiaeth yn ei gwneud yn bosibl i werthuso systemau addysg ledled y byd drwy fesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion tua diwedd eu cyfnod o addysg orfodol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
I Ysgolion
A yw eich ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn PISA 2025? Dysgwch fwy am yr hyn sydd ynghlwm â'r astudiaeth a pham mae cyfraniad eich ysgol yn bwysig.
I rieni
Ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i ddisgybl sydd wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn PISA 2025? Dysgwch fwy am yr astudiaeth.