Beth rydym wedi'i ddysgu o PISA 2022?
Perfformiad PISA yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2022
Mae'r crynhoad hwn yn cynnig crynodeb o'r hyn y gwnaethom ei ganfod mewn perthynas â pherfformiad myfyrwyr yn PISA 2022. Rydym yn ystyried sut mae'r tair gwlad yn cymharu'n rhyngwladol, sut mae eu perfformiad wedi newid dros amser ac i ba raddau mae perfformiad yn amrywio yn ôl rhywedd a statws economaidd-gymdeithasol.
Darllen y crynodeb
Beth mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ei ddweud wrthym am eu profiadau o ddysgu mathemateg? Dadansoddi data perfformiad a holiaduron myfyrwyr o PISA 2022
Yn y crynhoad hwn, rydym yn edrych yn fanylach ar berfformiad myfyrwyr ym mhrofion mathemateg PISA 2022, gan ystyried perfformiad ar draws y meysydd cynnwys gwahanol. Rydym hefyd yn ystyried eu hagweddau at ddysgu mathemateg a'u profiadau yn hyn o beth, yn seiliedig ar eu hymateb i'r holiadur.
Darllen y crynodeb
Beth mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ei ddweud wrthym am eu llesiant? Dadansoddi data o holiaduron myfyrwyr o PISA 2022
Yn y crynhoad hwn, rydym yn ystyried yr hyn a ddywedodd y myfyrwyr wrthym am eu llesiant yn eu hymateb i holiadur PISA 2022. Rydym yn ystyried yr hyn y gwnaethant ei ddweud wrthym am eu hymdeimlad o foddhad bywyd, eu hymdeimlad o berthyn a diogelwch yn yr ysgol, a'u profiad o fwlio.
Darllen y crynodeb