Dod â TIMSS 2027 i Gymru

View all tags

Asesiad rhyngwladol o addysg Mathemateg a Gwyddoniaeth yw'r Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS), a chaiff ei chynnal bob pedair blynedd.

Five children seated at a classroom table, collaboratively working with colourful counting blocks and counters during a hands-on maths activity.

Ers 1995, mae dros 60 o wledydd wedi cymryd rhan, gan gasglu a dehongli data pwysig ar berfformiad plant 9-10 oed ac 14-15 oed mewn mathemateg a gwyddoniaeth, eu hagweddau a'u profiadau dysgu. Bydd Cymru yn cymryd rhan yn TIMSS am y tro cyntaf yn 2027, ar lefel 9-10 oed yn unig. Mae'r data hyn yn agor drysau i werthuso a datblygu'r ddarpariaeth addysg genedlaethol. Mae'r dull gweithredu a ddefnyddir yn golygu y gall gwledydd sy'n cymryd rhan dros gylchoedd olynol olrhain newidiadau mewn perfformiad, agweddau a phrofiadau dros amser, yn ogystal â chymharu eu data eu hunain â data gwledydd cymharol addas.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru ehangu ei dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd yn y wlad o ran dysgu mathemateg a gwyddoniaeth ar lefel gynradd:

  • Pa fath o gynnydd y mae plant yn ei wneud o ran pynciau a sgiliau mathemategol a gwyddonol?
  • Beth yw eu barn am ddysgu mathemateg a gwyddoniaeth?
  • Pa brofiad a geir o fathemateg a gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn 2027?
  • Sut mae tystiolaeth TIMSS yn cyd-fynd â gwybodaeth arall sydd gennym, a beth mae'n ei ychwanegu er mwyn cryfhau ein dealltwriaeth genedlaethol?

Yn bwysig, mae TIMSS wedi'i chynllunio i ddarparu gwybodaeth werthfawr i'n helpu i ddeall y ffordd orau o helpu ein dysgwyr i lwyddo ac ni fwriedir iddi ysgogi penderfyniadau am y cwricwlwm nac ar lefel ystafelloedd dosbarth.

Mae pob gwlad yn ystyried y canlyniadau hyn mewn perthynas â grwpiau demograffig gwahanol (er enghraifft, yn ôl rhyw, ar draws dangosyddion tlodi ac, mewn gwledydd dwyieithog fel Cymru, yn ôl iaith hefyd). Bydd hefyd yn gyfle gwerthfawr i feithrin dealltwriaeth well o brofiadau plant sy'n dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru drwy gasglu tystiolaeth bwysig am ei gynnydd. Mae'r timau ymchwil cenedlaethol sy'n gyfrifol am TIMSS yn gweithio'n ofalus i gyfleu dulliau gweithredu pob gwlad mewn perthynas â'r cwricwlwm ac addysgu a dysgu ac i nodi sut y cânt eu paru â chwestiynau asesu TIMSS. Bydd hyn yn galluogi rhieni, ysgolion a gwneuthurwyr polisïau Llywodraeth Cymru i feithrin dealltwriaeth wirioneddol o'r hyn y mae plant yng Nghymru yn ei ddysgu mewn mathemateg a gwyddoniaeth erbyn Blwyddyn 5. Bydd y gwaith dadansoddi hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall i ba raddau y mae hynny'n cefnogi ei gweledigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Three children seated at a classroom table observing a small plant in a clear container, with a laptop, magnifying glass, beakers, and a notebook arranged on the table.

Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y sampl genedlaethol eisoes yn gweithio gyda Pearson, a fydd yn cynnal pob asesiad. Bydd ein tîm yn Athrofa Addysg UCL wedyn yn arwain y gwaith o ddadansoddi'r data ar gyfer Cymru ac adrodd arnynt. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda phartneriaid lleol, ac at ddysgu ganddynt, wrth i Gymru gymryd y cam cyffrous hwn tuag at ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg a gwyddoniaeth yn eu system addysg gynradd.

 

Professor Jennie Golding and Dr Rachel Marks