Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS) ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth pan fyddant yn 10 oed, neu ym Mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pedair blynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir.
A yw eich ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn TIMSS 2027? Dysgwch fwy am yr hyn sydd ynghlwm â'r astudiaeth a pham mae cyfraniad eich ysgol yn bwysig.
Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i ddisgybl sydd wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn TIMSS 2027? Dysgwch fwy am yr astudiaeth.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.