Dod â TIMSS 2027 i Gymru
Asesiad rhyngwladol o addysg Mathemateg a Gwyddoniaeth yw'r Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS), a chaiff ei chynnal bob pedair blynedd.
Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, sef “TIMSS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth pan fyddant yn 10 oed, neu ym Mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pedair blynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae TIMSS yn cynnwys holiaduron i athrawon, penaethiaid, a rhieni/gofalwyr, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu mathemateg a gwyddoniaeth, ac amgylchedd yr ysgol a'r cartref.
Mae TIMSS yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu gwledydd i wella eu systemau addysg. Drwy gynnig dull dibynadwy o gymharu cyflawniad rhyngwladol disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth, mae TIMSS yn galluogi gwledydd i weld sut mae eu disgyblion yn perfformio o gymharu ag eraill ledled y byd. Mae hyn yn helpu i nodi cryfderau i adeiladu arnynt a meysydd y mae angen eu gwella.
Yn bwysig, mae TIMSS yn gwneud mwy na mesur cyflawniad – mae hefyd yn casglu gwybodaeth fanwl am agweddau, cymhellion, ac amgylcheddau dysgu disgyblion. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pam mae disgyblion yn perfformio mewn ffordd benodol a beth sy'n eu helpu fwyaf i ddysgu.
Drwy ddysgu o bolisïau ac arferion gwledydd â pherfformiad uchel a monitro ein cynnydd ni ein hunain dros amser gan ddefnyddio mesurau annibynnol, mae TIMSS yn rhoi'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniadau gwybodus a all wneud gwelliannau go iawn mewn perthynas â deilliannau addysgol pob disgybl.
Archwiliwch ein postiadau blog diweddaraf sy’n ymwneud â TIMSS.
Asesiad rhyngwladol o addysg Mathemateg a Gwyddoniaeth yw'r Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS), a chaiff ei chynnal bob pedair blynedd.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.