Beth yw PISA?
Caiff astudiaeth PISA ei chynnal mewn dau gam, sef prawf maes a phrif astudiaeth, a chaiff ysgolion gwahanol eu dewis ar gyfer pob cam. Mae'r prawf maes (Mawrth 2024) yn cynnwys sampl lai o ysgolion a disgyblion na'r brif astudiaeth (Hydref 2025). Mae'r prawf maes yn sicrhau bod asesiadau, holiaduron a phrosesau PISA 2025 yn gweithio cystal â phosibl cyn cynnal y brif astudiaeth – felly mae'n rhan bwysig a dylanwadol iawn o'r astudiaeth, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.
Fel rhan o asesiad PISA, bydd angen i chi gwblhau:
• Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
• Holiadur cefndir yn holi am eich bywyd, eich ysgol a'ch profiadau dysgu
Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ddisgyblion, ac yn ehangach i addysg yn y DU.