I Ddisgyblion

Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, rydych yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr OECD ar gyfer PISA

Beth sy'n digwydd fel rhan o PISA?

Fel rhan o asesiad PISA, bydd angen i chi gwblhau:

  • Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
  • Holiadur cefndir yn holi am eich bywyd, eich ysgol a'ch profiadau dysgu

Beth yw manteision PISA?

Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ddisgyblion, ac yn ehangach i addysg yn y DU.

  • Cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
  • Profiad o gynrychioli Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth ryngwladol.
  • Cyfle i ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein arloesol ‘risg isel’.

Preifatrwydd data a sut rydym yn defnyddio data personol

Ni fydd canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi a bydd eich manylion adnabod, a manylion adnabod eich ysgol, yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Yn yr holiadur, gofynnwn i chi roi atebion gonest. Fodd bynnag, mae croeso i chi beidio ag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei ateb/eu hateb.

Dysgwch fwy am sut y caiff eich data eu defnyddio

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi 

gysylltu â thîm cymorth PISA25.

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, Pearson, UCL, Department of Education University of Oxford