I Rieni

Pupils working on computers in a classroom

Beth yw PISA?

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw'r astudiaeth ryngwladol fwyaf yn y byd o systemau addysg ac fe'i datblygwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bob tair blynedd, mae PISA yn profi disgyblion 15 oed o bob cwr o'r byd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen. Drwy gymryd rhan yn PISA25, mae eich plentyn yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr OECD ar gyfer PISA.

Beth sy'n digwydd fel rhan o PISA?

I'ch plentyn, mae asesiad PISA yn cynnwys cymryd rhan yn y canlynol:

  • Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â gwyddoniaeth, darllen a mathemateg
  • Holiadur cefndir yn holi am ei fywyd, ei ysgol a'i brofiadau dysgu.

Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith ymlaen llaw er mwyn i'ch plentyn allu cwblhau'r asesiad.

Beth yw manteision PISA?

  • Bydd eich plentyn yn cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
  • Bydd eich plentyn yn cael profiad o gynrychioli Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn astudiaeth ryngwladol.
  • Bydd eich plentyn yn gallu ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol drwy asesiad ar-lein arloesol ‘risg isel’.

Preifatrwydd data a sut rydym yn defnyddio data personol

Ni fydd canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi. Bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Yn yr holiadur, anogir disgyblion i roi atebion gonest. Fodd bynnag, mae croeso i ddisgyblion beidio ag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn ei ateb/eu hateb.

Dysgwch fwy am sut y caiff data eich plentyn eu defnyddio

Partner logos: Department for Education (England), Welsh Government, Department of Education (NI), OECD, Pearson, UCL, Department of Education University of Oxford