I Ysgolion
Beth sydd angen i ni ei wneud?
Mae asesiad PISA yn cynnwys:
Asesiad ar sgrin i ddisgyblion
Yn asesu cymhwysedd mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg.
Holiadur cefndir i ddisgyblion
Yn holi am eu nodweddion, eu hysgol a'u profiadau dysgu.
Holiadur i ysgolion i'r penaethiaid
Yn holi am gyd-destun eu hysgol, y staff a'r disgyblion.
Beth yw manteision PISA?
- Mae cymryd rhan yn PISA yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ysgolion, i ddisgyblion ac i addysg yn y DU. Byddwch yn gwneud y canlynol:
- • Cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well
- • Rhoi profiad i ddisgyblion o gynrychioli eu gwlad mewn astudiaeth ryngwladol a chynnig y cyfle iddynt ymarfer y sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesiadau allanol mewn asesiad ar-lein diddorol ac arloesol ‘risg isel’.
- Er mwyn diolch i chi am roi o'ch amser, byddwch yn cael tâl gweinyddu yn uniongyrchol i'ch ysgol.
Cysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth PISA25.