Rôl Cydlynydd yr Ysgol yw helpu i baratoi ar gyfer cynnal PISA yn ei ysgol. Drwy gydol y broses hon, bydd Pearson yn eich helpu i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o dasgau gweinyddol i Gydlynwyr Ysgol eu cyflawni.
Gweinyddwr Prawf a ddarperir gan Pearson fydd yn gyfrifol am gynnal yr astudiaeth ar ddiwrnod yr asesiad (oni bai bod eich ysgol wedi penderfynu enwebu aelod o staff yr ysgol fel Gweinyddwr y Prawf). Fodd bynnag, mae rhai tasgau gweinyddol y mae angen iddynt gael eu cwblhau yn ystod y cyfnod cyn asesiad PISA ac yn ystod yr asesiad.
Rydym wedi creu dogfen gynhwysfawr yn cynnwys cwestiynau cyffredin er mwyn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am PISA25. Os nad oes ateb i'ch cwestiwn/cwestiynau yn y ddogfen hon, mae croeso i chi gysylltu â thîm cymorth PISA.