
Ynglŷn â PISA
Beth yw PISA?

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd, ac mae'n cynnwys ysgolion a disgyblion mewn dros 90 o wledydd. Caiff PISA ei chynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) bob tair blynedd. Mae'r astudiaeth yn ei gwneud yn bosibl i werthuso systemau addysg ledled y byd drwy fesur gwybodaeth a sgiliau disgyblion tua diwedd eu cyfnod o addysg orfodol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Drwy ddadansoddi sgorau disgyblion, ochr yn ochr â gwybodaeth gyd-destunol am nodweddion disgyblion a'u hymgysylltiad, prosesau rheoli ysgolion a pholisi cenedlaethol, mae'r astudiaeth yn cynnig cyfle i ddeall gwahaniaethau ym mherfformiad disgyblion, a hynny o fewn gwledydd sy'n cymryd rhan a rhyngddynt.
Gwyddoniaeth fydd ffocws cylch PISA 2025, a bydd cyfran fwy o'r cwestiynau yn targedu'r maes hwn.
Mae cymryd rhan yn PISA yn galluogi'r gwledydd sy’n cymryd rhan i gymharu eu cyflawniad yn rhyngwladol, dysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill a monitro tueddiadau dros amser. Mae'r gweithgareddau hyn yn allweddol i wella cyrhaeddiad a phrofiadau addysgol.
Mae asesiad PISA yn cynnwys:
Asesiad ar sgrin i ddisgyblion
Mae hwn yn asesu cymhwysedd mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg. Mae'r asesiad yn cynnwys dwy adran awr o hyd.
Holiadur cefndir i ddisgyblion
A fydd yn holi am eu nodweddion, eu hysgolion a'u profiadau dysgu.
Holiadur i ysgolion a gaiff ei lenwi gan benaethiaid
A fydd yn gofyn am gyd-destun eu hysgol, y staff a'r disgyblion.
Amserlen
Bydd Pearson yn cyflwyno astudiaeth PISA 2025 ar ran yr Adran Addysg a Sgiliau yng Nghymru, Adran Addysg Lloegr ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon. Coleg Prifysgol Llundain (UCL) fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA) fydd yn arwain y gwaith dadansoddi ac adrodd ar gyfer Lloegr.

Mawrth 2024 – Ysgolion a disgyblion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan ym Mhrawf Maes PISA.
Hydref - Rhagfyr 2025 – Ysgolion a disgyblion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan ym Mhrif Astudiaeth PISA.
Rhagfyr 2026 – Canfyddiadau ar gyfer pob gwlad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad rhyngwladol gan yr OECD. Caiff adroddiadau cenedlaethol eu llunio ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon (gan UCL) ac ar gyfer Lloegr (gan OUCEA).