Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol (PIRLS) ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad darllen disgyblion pan fyddant o gwmpas 10 oed, neu ym mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pum mlynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn darllen, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir.
A yw eich ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn PIRLS 2026? Dysgwch fwy am yr hyn sydd ynghlwm â'r astudiaeth a pham mae cyfraniad eich ysgol yn bwysig.
Ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i ddisgybl sydd wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn PIRLS 2026? Dysgwch fwy am yr astudiaeth.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn PIRLS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (o 8am yn ystod cyfnod y profion) ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlsCymru@pearson.com unrhyw bryd.