I rieni a gofalwyr

Pupils working on computers in a classroom

Beth yw PIRLS?

Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol, a elwir yn “PIRLS”. Caiff ei chynnal gan IEA ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad darllen disgyblion pan fyddant o gwmpas 10 oed, neu ym mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pum mlynedd ar draws dros 60 o wledydd. Drwy gymryd rhan yn PIRLS26, mae eich plentyn yn cyfrannu at wella addysg yn y DU a thu hwnt.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan yr IEA ar gyfer PIRLS

Beth sy'n digwydd fel rhan o PIRLS?

I'ch plentyn, mae asesiad PIRLS yn cynnwys cymryd rhan yn y canlynol:

  • Asesiad rhyngweithiol ar y sgrin sy'n ymdrin â darllen.
  • Holiadur cefndir yn holi am ei fywyd, ei ysgol a'i brofiadau dysgu.

Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith adolygu ymlaen llaw er mwyn i'ch plentyn allu cwblhau'r asesiad.

Beth yw manteision PIRLS?

Mae cymryd rhan yn PIRLS yn cynnig amrywiaeth o fanteision i ddisgyblion, ac yn ehangach i addysg yn y DU.

  • Bydd eich plentyn yn cyfrannu at astudiaeth sy'n ein helpu i ddeall ein system addysg yn well.
  • Bydd eich plentyn yn cael profiad o gynrychioli Cymru mewn astudiaeth ryngwladol ac yn cael tystysgrif am wneud hynny.
  • Bydd eich plentyn yn cael y cyfle i ymarfer ei sgiliau darllen drwy asesiad ar-lein diddorol ac arloesol.

Preifatrwydd Data a Data Personol

Ni fydd canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi. Bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Yn yr holiadur, anogir disgyblion i roi atebion gonest. Fodd bynnag, mae croeso i ddisgyblion beidio ag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau os nad ydynt yn dymuno ymateb.

I gael rhagor o wybodaeth am breifatrwydd data, gweler ein hysbysiadau

Tîm Cymorth PIRLS

Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn PIRLS.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (o 8am yn ystod cyfnod y profion) ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlsCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch PIRLS Cymru

Department for Education logo
Pearson logo
IEA PIRLS logo
Department of Education University of Oxford logo