Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol, a elwir yn “PIRLS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad darllen disgyblion pan fyddant o gwmpas 10 oed, neu ym mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pum mlynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn darllen, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae PIRLS yn cynnwys holiaduron i athrawon a phenaethiaid, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu darllen ac amgylchedd yr ysgol.
Mae PIRLS yn galluogi gwledydd ym mhedwar ban byd i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwella eu systemau addysg. Mae PIRLS yn cynnig cyfle i gymharu cyflawniad yn rhyngwladol, dysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill a monitro tueddiadau dros amser yn unol â mesurau annibynnol. Mae'r astudiaeth hefyd yn casglu gwybodaeth werthfawr am agweddau a chymhellion disgyblion er mwyn helpu i ddeall sut mae'r rhain yn cyfrannu at berfformiad disgyblion.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn PIRLS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (o 8am yn ystod cyfnod y profion) ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlsCymru@pearson.com unrhyw bryd.