Cwestiynau Cyffredin
Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol, a elwir yn “PIRLS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad darllen disgyblion pan fyddant o gwmpas 10 oed, neu ym mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pum mlynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn darllen, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae PIRLS yn cynnwys holiaduron i athrawon a phenaethiaid, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu darllen ac amgylchedd yr ysgol.
Caiff diwrnod asesu'r astudiaeth ei gynnal yn ystod mis Mai-Mehefin 2026, gyda disgyblion blwyddyn pump. Yn y llythyr croeso a anfonir at eich pennaeth, rhoddir dyddiad i'r astudiaeth gael ei chynnal yn eich ysgol. Gobeithio bod y dyddiad hwn yn gyfleus i'ch staff a'ch disgyblion, ac y gellir trefnu bod ystafell(oedd) addas ar gael. Os na fydd y dyddiad hwn yn addas am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni.
Yn dilyn proses samplu drwyadl, mae eich ysgol wedi cael ei dewis ar hap i gymryd rhan yn PIRLS gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Gwerthuso Cyflawniad Addysgol (IEA). Un o ofynion yr astudiaeth yw sicrhau bod y sampl o ysgolion sy'n cymryd rhan yn cynrychioli ysgolion yng Nghymru. Dim ond ysgolion a gaiff eu dewis drwy'r dull hap-samplu y gallwn gysylltu â nhw, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n dangos cynrychiolaeth wirioneddol o'r ystod lawn o ysgolion yng Nghymru o ran maint, lleoliad a'r math o ysgol. Gweler PIRLS | IEA.nl i gael gwybodaeth fanwl am fethodoleg yr astudiaeth.
Astudiaeth ryngwladol fawr sy'n monitro cyflawniad darllen yw PIRLS. Mae'n rhan hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ryngwladol, sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i feincnodi perfformiad Cymru yn erbyn gwledydd eraill, mesur tueddiadau dros amser, nodi a dadansoddi ffactorau sy'n effeithio ar gyflawniad disgyblion, a dysgu o bolisïau ac arferion gwledydd eraill.
Mae'r ysgolion a'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn PIRLS yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y broses o ddeall ein system addysg a dim ond drwy'r cyfranogiad hwn y gallwn wireddu'r cyfleoedd y mae PIRLS yn eu cynnig i wella ein polisïau a'n harferion addysgol. Drwy gymryd rhan yn PIRLS, byddwch yn gwneud y canlynol:
I ddiolch i chi am eich cymorth, bydd ysgolion a disgyblion yn cael tystysgrif cyfranogiad.
Er mwyn cydnabod eich cyfraniad gwerthfawr, bydd eich ysgol hefyd yn cael tâl gweinyddu. Caiff ffurflen tâl ei hanfon atoch oddi wrth dîm cymorth PIRLS.
Na fydd, bydd Canolfan Genedlaethol yr Astudiaeth (Pearson) yn darparu Gweinyddwr Prawf a fydd yn dod i'r ysgol ar ddiwrnod yr asesiad ac a fydd yn gyfrifol am gynnal yr astudiaeth. Mae'r Gweinyddwyr Prawf yn weithwyr addysg proffesiynol profiadol, sy'n gyn-athrawon yn aml, ac mae gan bob un ohonynt dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sy'n sicrhau bod ein staff yn cydymffurfio â'r canllawiau diweddaraf. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi sicrhau bod aelod o staff yr ysgol ar gael i aros yn yr ystafell yn ystod yr asesiad.
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r Gweinyddwyr Prawf yn ymweld â'ch ysgol, cysylltwch â Thîm Cymorth PIRLS i drafod hyn.
Bydd Tîm Cymorth PIRLS yn rhoi gwybod i chi pa ddosbarth/dosbarthiadau blwyddyn 5 a ddewiswyd. Un dosbarth gaiff ei ddewis yn y mwyafrif o ysgolion, ond bydd dau ddosbarth yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhai ysgolion mawr. Noder ei bod yn bosibl na chaiff pob disgybl yn y grŵp blwyddyn ei ddewis i gymryd rhan yn yr asesiadau. Mae'n bwysig bod pob disgybl a gaiff ei samplu yn ymgymryd â'r asesiad, ond gellir cymhwyso meini prawf esemptio ar gyfer disgyblion a fyddai o bosibl yn ei chael hi'n anodd ymgymryd â'r asesiadau. Cewch ragor o fanylion am esemptiadau er mwyn helpu i lywio'r penderfyniadau hyn.
Ar gyfer y Prawf Maes, bydd y disgyblion yn cwblhau asesiad darllen cyfrifiadurol rhyngweithiol sy'n cwmpasu ystod eang o gynnwys a meysydd pwnc sy'n berthnasol i'w hoedran. Dyluniwyd yr asesiad i brofi gwybodaeth disgyblion am ddarllen. Bydd yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ymateb agored ac ymateb caeëdig.
Yn y Brif Astudiaeth yn unig, yn ogystal â'r asesiad, gofynnir i ddisgyblion a staff hefyd gwblhau holiadur ar-lein er mwyn rhoi gwybodaeth gyd-destunol bwysig i ategu data'r asesiad:
Gellir gweld enghreifftiau o'r asesiadau a'r holiaduron yn Holiaduron Cyd-destun - PIRLS 2021.
I gael syniad o lefel anhawster PIRLS, cymerwch olwg ar y darnau darllen a’r cwestiynau enghreifftiol hyn.
Bydd y broses gyfan yn cymryd tua 2 awr, gan gynnwys y cyflwyniad, yr asesiad ac egwyl. Nid oes angen i ddisgyblion baratoi ymlaen llaw nac adolygu. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anelu at gwblhau'r astudiaeth yn y bore, ond gallwn wneud trefniadau i ddechrau'n hwyrach yn ystod y diwrnod ysgol er mwyn cyd-fynd ag amserlenni'r ysgol.
Bydd Gweinyddwr y Prawf yn cyrraedd o leiaf awr cyn yr amser dechrau a ddewiswyd gennych er mwyn paratoi'r ystafell. Dylai Cydlynydd yr Ysgol (athro i gynrychioli'r ysgol a fydd yn cefnogi'r broses gyflawni) anelu at gyrraedd ar yr un pryd. Byddem yn gwerthfawrogi lle parcio ar safle'r ysgol, os oes lleoedd parcio ar gael.
Os caiff dau ddosbarth eu dewis yn yr ysgol, gallwn asesu'r ddau ar yr un pryd, neu un dosbarth yn y bore ac un ar ôl cinio, er mwyn defnyddio'r cyfleusterau TG yn y ffordd orau. Bydd Tîm Cymorth PIRLS yn rhoi arweiniad i ysgolion sydd â dau ddosbarth.
Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith adolygu ymlaen llaw er mwyn i ddisgyblion allu cwblhau'r asesiad ac ychydig iawn o waith gweinyddol y bydd angen i staff yr ysgol ei wneud.
Dylai disgyblion ddod â llyfr i'w ddarllen yn dawel rhag ofn y byddant yn gorffen yr asesiad yn gynnar.
Bydd angen cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd ar y disgyblion, ynghyd â bysellfwrdd a llygoden er mwyn cwblhau'r astudiaeth. Mae ystafell TG, neu ddwy yn dibynnu ar nifer y disgyblion, yn ddelfrydol, neu fel arall gellir defnyddio ystafell ddosbarth gyda gliniaduron. Dylai'r ystafell TG neu'r ystafell ddosbarth a ddefnyddir fod yn dawel ac ni ddylai gynnwys unrhyw beth a all dynnu sylw'r disgyblion.
Os nad oes gan eich ysgol ddigon o gyfrifiaduron mewn ystafelloedd TG neu liniaduron i'w defnyddio mewn ystafell ddosbarth, gellir darparu gliniaduron ychwanegol. Os bydd angen rhagor o liniaduron arnoch er mwyn cynnal yr asesiadau, cysylltwch â Thîm Cymorth PIRLS.
Bydd, ond nid oes fawr ddim gwaith trefnu a bydd Pearson yn cefnogi pob ysgol drwy gydol y broses.
Caiff yr asesiadau eu hagor ar y rhyngrwyd gan ddefnyddio manylion mewngofnodi diogel ac felly bydd angen WiFi/cysylltiad â'r rhyngrwyd er mwyn i ddisgyblion allu cwblhau'r asesiad a'r holiadur. Bydd angen gliniadur neu gyfrifiadur ar bob disgybl am hyd at 2 awr (gan gynnwys egwylion). Os byddwch yn defnyddio gliniaduron, dylid eu gwefru'n llawn cyn diwrnod yr astudiaeth. Byddwn yn cydgysylltu'n agos â'r Cydlynydd Ysgol a'r Cydlynydd TG a enwebwyd gennych cyn diwrnod yr asesiad er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau TG yn eich ysgol wedi'u trefnu'n briodol. Bydd angen cynnal prawf awtomataidd pum munud o hyd o gyfrifiadur ar system yr ysgol cyn diwrnod yr asesiad, a darperir dolen ar gyfer hyn. Hefyd, os yw'n bosibl, bydd angen i chi sicrhau bod eich Cydlynydd TG ar gael ar ddiwrnod yr asesiad er mwyn helpu gydag unrhyw broblemau a allai godi.
Bydd Tîm Cymorth PIRLS yn helpu Cydlynydd PIRLS eich ysgol drwy gydol y broses ac yn anelu at sicrhau bod cyn lleied o waith gweinyddol â phosibl. Yn aml caiff athro neu gynorthwyydd addysgu'r dosbarth blwyddyn pump ei ddewis ar gyfer y rôl. Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal yr astudiaeth mewn ffordd debyg ym mhob ysgol, mae'n bosibl y bydd swyddog monitro ansawdd yn mynychu eich sesiwn brofi. Os felly, bydd yn gofyn cwestiynau i Gydlynydd yr Ysgol am y trefniadau y bu'n rhaid i chi eu gwneud ac yn gofyn eich barn am y ffordd y cafodd yr astudiaeth ei threfnu.
Gofynnwn i bob ysgol ddarparu dirprwy Gydlynydd Ysgol rhag ofn y bydd prif Gydlynydd yr Ysgol yn absennol. Ni fydd yn rhaid i'r unigolyn hwn ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau oni bai fod prif Gydlynydd yr Ysgol yn absennol am gyfnod hir.
Gellir rhoi gwybod i ddisgyblion am yr astudiaeth yn ystod y dyddiau cyn yr asesiad. Byddwn yn darparu templed o lythyr i chi ei anfon at eu rhieni a'u gwarcheidwaid. Caiff y templedi hyn eu hanfon atoch drwy e-bost er mwyn i chi allu eu golygu fel y bo angen a'u hargraffu neu eu dosbarthu'n electronig. Byddwn hefyd yn darparu llythyr i chi ar breifatrwydd data y mae'n rhaid ei gynnwys gyda'ch llythyr at rieni ac ni ddylid ei addasu. Dylid anfon y llythyrau unwaith y byddwn wedi cadarnhau'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth (nid cyn hynny).
Byddant, bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn aros yn gyfrinachol ac ni chaiff canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol eu cyhoeddi. Caiff y data a gaiff eu rhannu â threfnydd yr astudiaeth ryngwladol eu rhoi dan ffugenw: caiff manylion am ddisgyblion ac ysgolion eu dileu a defnyddir cod yn eu lle, fel na fydd modd adnabod unrhyw ysgolion na disgyblion unigol. Ni fydd y llywodraeth nac unrhyw sefydliad a gaiff ganiatâd i weld y data at ddibenion gwaith cymharu neu waith ymchwil rhyngwladol yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n cynnwys manylion adnabod unrhyw unigolion neu ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth na manylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod.
Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw'n ddiogel ac ni fydd unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad yn cynnwys manylion adnabod unrhyw ddisgyblion neu ysgolion unigol nac unrhyw fanylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod.
Gellir cysylltu â Thîm Cymorth PIRLS o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 4pm ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlscymru@pearson.com.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn PIRLS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (o 8am yn ystod cyfnod y profion) ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlsCymru@pearson.com unrhyw bryd.