PIRLS 2026 Cymru
Yr Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol
Canolfan Ymchwil Genedlaethol Cymru
Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol, a elwir yn “PIRLS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad darllen disgyblion pan fyddant o gwmpas 10 oed, neu ym mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pum mlynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn darllen, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae PIRLS yn cynnwys holiaduron i athrawon a phenaethiaid, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu darllen ac amgylchedd yr ysgol.
Mae PIRLS yn cynnwys pum rhan yng Nghymru:
I gael rhagor o wybodaeth a dolenni i eitemau enghreifftiol:
Caiff PIRLS ei chynnal gan Ganolfan Genedlaethol yr Astudiaeth ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan. Mae Pearson a Chanolfan Prifysgol Rhydychen ar gyfer Asesu Addysg (OUCEA) wedi cael eu penodi'n Ganolfan Genedlaethol Astudiaeth PIRLS 2026 ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cymru. Bydd Pearson yn gweithio gydag ysgolion i gynnal yr astudiaeth, gan reoli'r gwaith o weinyddu, prosesu a sgorio asesiad PIRLS 2026. OUCEA fydd yn gyfrifol am adrodd ar y canfyddiadau yng Nghymru a'u dosbarthu.
Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn PIRLS.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (o 8am yn ystod cyfnod y profion) ar 020 7010 2027 neu drwy e-bostio pirlsCymru@pearson.com unrhyw bryd.