Bydd Tîm Cymorth TIMSS yn cysylltu â'ch ysgol gyda llythyr gan Lywodraeth Cymru ac e-bost croeso gan Pearson. Caiff ysgolion eu dewis i gymryd rhan yn TIMSS i'n helpu i ddeall addysg Gwyddoniaeth a Mathemateg yn well yn y DU ac yn rhyngwladol, ac i nodi ffyrdd o wella canlyniadau i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion. Rydym yn eich annog i rannu'r cyfle cyffrous hwn â'ch Uwch-dîm Arwain a'ch Llywodraethwyr.
Bydd aelod o Dîm Cymorth TIMSS yn cysylltu â chi i'ch tywys drwy'r broses o lenwi Ffurflen Gofrestru ar gyfer yr Astudiaeth yn eich e-bost croeso. Fel rhan o'r ffurflen, byddwn yn gofyn i chi enwebu dau aelod o staff i weithredu fel Cydlynwyr Ysgol TIMSS a byddwn yn cadarnhau ychydig o fanylion allweddol, gan gynnwys a yw'r dyddiad arfaethedig ar gyfer prawf TIMSS yn addas o ystyried amserlen eich ysgol. Mae croeso i chi awgrymu dyddiadau eraill o fewn cyfnod y profion os ydynt yn fwy addas: 17 Mai – 2 Gorffennaf 2027.
Bydd y Ffurflen Gofrestru ar gyfer yr Astudiaeth hefyd yn gofyn am wybodaeth am faint o ddosbarthiadau Blwyddyn 5 sydd yn eich ysgol a'u hathrawon a bydd yn cynnig y cyfle i chi ddarparu manylion banc eich ysgol. Nid oes yn rhaid i chi rannu manylion banc yr ysgol yn ystod y cam hwn, ond gall ein helpu i drefnu eich tâl diolch am gymryd rhan yn TIMSS ymlaen llaw.
Yn seiliedig ar faint eich ysgol, nifer y disgyblion a maint y dosbarthiadau, bydd ein tîm samplu yn dewis un neu fwy o'ch dosbarthiadau Blwyddyn 5 i gymryd rhan yn Niwrnod Prawf TIMSS. Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod rhieni a gofalwyr y disgyblion yn y dosbarthiadau hyn yn cael gwybod bod eich ysgol yn cymryd rhan yn TIMSS a'u bod yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i ni. Felly byddwn yn darparu templed o lythyr i chi ei rannu â nhw, gyda gwybodaeth fanwl am astudiaeth TIMSS a'r canllawiau diogelu data y bydd Pearson yn eu dilyn er mwyn gofalu am ddata eu plentyn.
Gallwch anfon llythyrau i gartrefi naill ai'n ddigidol neu ar ffurf copi caled, ond cofiwch ganiatáu digon o amser i rieni a gofalwyr fwrw golwg dros y wybodaeth a rhoi gwybod i chi os byddai'n well ganddynt i'w plentyn beidio â chymryd rhan.
Byddwn yn cadarnhau eto pa rai o'ch dosbarthiadau Blwyddyn 5 sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn Niwrnod Prawf TIMSS ac yn anfon Ffurflen Cysylltu Myfyrwyr-Athrawon ar gyfer pob dosbarth sy'n cymryd rhan. Mae Ffurflenni Cysylltu Myfyrwyr-Athrawon yn ein helpu i baru disgyblion â'r athrawon sy'n gweithio gyda nhw, felly byddwn yn gofyn i chi lenwi'r ddogfen/dogfennau ag enwau'r disgyblion a'u manylion, fel ein bod yn gwybod pa ddisgyblion sydd ym mha ddosbarth.
Rydym yn argymell y dylai Cydlynwyr Ysgol weithio gyda'u CADY/Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i gwblhau'r cam hwn, gan ei fod yn gyfle da i nodi disgyblion y mae angen addasiadau arnynt neu nad ydynt o bosibl yn addas i gymryd rhan yn yr asesiad. Byddwn yn darparu arweiniad drwy gydol y broses hon, ac mae ein tîm ar gael i drafod amgylchiadau unigol os bydd gennych ymholiadau. Ar ôl ei chwblhau/eu cwblhau, dychwelwch y Ffurflen(ni) Cysylltu Myfyrwyr-Athrawon drwy ddull diogel at Dîm Cymorth TIMSS i'w hadolygu.
Asesiad cyfrifiadurol yw TIMSS. Rydym yn gwybod y gall technoleg godi bwganod weithiau, felly rydym yma i helpu bob cam o'r ffordd. Rydym yn hoffi gwneud yn siŵr bod technoleg eich ysgol yn barod ymhell cyn Diwrnod Prawf TIMSS, felly byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau syml am y dyfeisiau sydd ar gael yn eich ysgol ac yn eich tywys drwy rai gwiriadau syml. Mae hyn yn ein helpu i nodi a datrys unrhyw broblemau posibl ymlaen llaw, gan roi hyder i bawb y bydd Diwrnod Prawf TIMSS yn rhedeg yn esmwyth.
Bydd Cydlynydd yr Ysgol yn cael cyfarwyddiadau drwy e-bost ynghyd â Ffurflen Gwirio Technoleg i'w chwblhau. Mae'r ffurflen hon yn eich galluogi i gadarnhau'r gwiriadau sydd wedi'u cynnal a thynnu sylw at unrhyw beth yr hoffech gael cymorth ag ef. Os oes gennych Reolwr TGCh yn yr ysgol, yn aml, bydd yn gallu helpu gyda'r cam hwn.
Mae'r dyfeisiau sy'n cydweddu ag asesiad TIMSS yn cynnwys y rhan fwyaf o liniaduron, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, Chromebooks a Surface Pros. Yn anffodus, nid yw iPads a thabledi heb fysellfwrdd cysylltiedig yn cydweddu ag asesiad TIMSS. Peidiwch â phoeni os nad oes digon o ddyfeisiau sy'n cydweddu ar gael yn eich ysgol, efallai y bydd Pearson yn gallu darparu cyfarpar ychwanegol ar gyfer Diwrnod Prawf TIMSS, yn dibynnu a oes cyfarpar ar gael ganddo.
Un rhan bwysig o TIMSS yw deall y ffactorau ehangach a all ddylanwadu ar gyflawniad disgyblion.
Bydd ysgolion yn cael Holiadur i Gartrefi i'w rannu â rhieni a gofalwyr y disgyblion yn y dosbarthiadau a gaiff eu dewis. Mae'r Holiadur i Gartrefi yn ein helpu i ddeall y profiadau gwahanol sy'n helpu plant i ddysgu gartref a sut y gall y rhain fod yn gysylltiedig â chyflawniad mewn Gwyddoniaeth a Mathemateg.
Gwahoddir aelod o Dîm Arwain yr Ysgol i gwblhau Holiadur i Ysgolion, sy'n casglu gwybodaeth am gyd-destun eich ysgol. Gofynnir i athrawon y dosbarthiadau Blwyddyn 5 a gaiff eu dewis, neu Benaethiaid Gwyddoniaeth neu Fathemateg lle y bo'n briodol, gwblhau Holiadur i Athrawon, sy'n ystyried meysydd fel profiad o addysgu, datblygiad proffesiynol, ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, dulliau asesu a pharodrwydd disgyblion i ddysgu. Byddwn yn anfon manylion mewngofnodi a chanllawiau drwy e-bost.
Byddwn yn anfon eich deunyddiau asesu ar gyfer TIMSS ychydig wythnosau cyn Diwrnod Prawf TIMSS eich ysgol. Unwaith y byddant yn cyrraedd, gofynnwn i Gydlynwyr yr Ysgol wneud yn siŵr bod popeth wedi'i gynnwys a storio'r deunyddiau'n ddiogel nes bod eu hangen.
O leiaf bythefnos cyn Diwrnod Prawf TIMSS, byddwn yn cadarnhau enw a manylion cyswllt Gweinyddwr/Gweinyddwyr y Prawf a fydd yn cefnogi eich ysgol ar y diwrnod. Yr unigolyn hwn/unigolion hyn fydd eich prif bwynt cyswllt ar gyfer trafod trefniadau, logisteg a gofynion diogelu, gan helpu i sicrhau bod popeth yn ei le cyn i'r asesiad gael ei gynnal. Rydym yn argymell yn gryf y dylid dechrau asesiad TIMSS yn ystod rhan gyntaf y bore, ond rydym yn caniatáu i ysgolion ddewis amser dechrau penodol i gyd-fynd â'u hamserlen. Gofynnwn i chi sicrhau bod un o Gydlynwyr yr Ysgol ar gael i groesawu Gweinyddwr/Gweinyddwyr y Prawf, i helpu i sicrhau bod y disgyblion yn bresennol ac i sicrhau mynediad i'r ystafell(oedd) asesu.
Yna caiff asesiad TIMSS a'r Holiadur i Ddisgyblion eu cynnal, gan ddilyn yr amserlen a amlinellir isod a bydd yr holl ddisgyblion sy'n cymryd rhan yn cael tystysgrif i fynd adref gyda nhw ar ôl y prawf. Dylid llungopïo unrhyw ddogfennaeth a ddefnyddir yn ystod Diwrnod Prawf TIMSS ar gyfer eich cofnodion cyn dychwelyd y dogfennau gwreiddiol i Pearson drwy Weinyddwr/Gweinyddwyr y Prawf.
| Gweithgaredd | Amser |
| Bwrw golwg dros yr ystafell, gosod dyfeisiau a mewngofnodi, a rhoi'r disgyblion i eistedd wrth eu cyfrifiaduron | Tua 60 munud |
| Mewngofnodi disgyblion, cyfrineiriau, cyflwyno'r asesiad | Tua 15 munud |
| Rhan 1 asesiad TIMSS | 36 munud (yn union) |
| Egwyl fer | Hyd at 15 munud |
| Paratoi'r disgyblion ar gyfer Rhan 2 | Tua 10 munud |
| Rhan 2 asesiad TIMSS | 36 munud (yn union) |
| Egwyl fer | Hyd at 10 munud |
| Cyflwyniad a'r disgyblion yn cwblhau'r Holiadur i Ddisgyblion | Tua 30 munud |
| Casglu'r deunyddiau a dod â'r sesiwn i ben, gan gynnwys pacio gliniaduron Pearson, os yw'n berthnasol | Tua 30-45 munud |
| Cyfanswm yr amser yn yr ysgol | Rhwng tua 4 a 4.5 awr |
Mae cyfranogiad eich ysgol yn TIMSS yn gyfraniad pwysig at ddyfodol addysg Gwyddoniaeth a Mathemateg a hoffem gydnabod hynny drwy roi tâl diolch i chi. Os gwnaethoch ddarparu eich manylion banc yn ystod y cam Cofrestru ar gyfer yr Astudiaeth, byddwn yn gallu trefnu tâl diolch eich ysgol yn fuan ar ôl Diwrnod Prawf TIMSS eich ysgol.
Os gwnaethoch ddewis peidio â darparu manylion banc ar y cam cynharach, byddwn yn anfon Ffurflen Tâl Diolch i'ch Rheolwr Cyllid ei llenwi, a byddwn yn prosesu'r tâl diolch ar ôl i gyfnod profion TIMSS ddod i ben. Byddwn hefyd yn gwahodd pob Cydlynydd Ysgol i gwblhau arolwg adborth byr. Mae eich sylwadau yn ein helpu i wella astudiaethau yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r profiad gorau posibl i'r ysgolion sy'n cymryd rhan.