I rieni a gofalwyr

Pupils working on computers in a classroom

Beth yw TIMSS?

Mae'r Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, sef "TIMSS", yn astudiaeth ryngwladol fawr sy'n cael ei chynnal bob pedair blynedd. Mae'n mesur pa mor dda mae disgyblion ledled y byd yn perfformio mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Yng Nghymru, mae disgyblion ym Mlwyddyn 5 (tua 10 oed) yn cymryd rhan.

Mae dros 60 o wledydd yn cymryd rhan yn TIMSS. Drwy gymryd rhan, mae eich plentyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth bwysig a all wella addysg yng Nghymru, y DU, a gwledydd eraill.

Dysgwch fwy ar wefan yr IEA ar gyfer TIMSS

Beth yw Prawf Maes TIMSS?

Caiff astudiaeth TIMSS ei chynnal mewn dwy ran: prawf maes a phrif astudiaeth. Caiff ysgolion gwahanol eu dewis ar gyfer pob rhan. Caiff y prawf maes ei gynnal ym mis Mawrth 2026 ac mae'n cynnwys sampl lai o ysgolion a disgyblion na'r brif astudiaeth yn 2027.

Mae'r prawf maes yn bwysig iawn gan ei fod yn helpu i sicrhau bod yr holl brofion, holiaduron a phrosesau yn gweithio'n iawn cyn y brif astudiaeth. Mae cyfranogiad eich plentyn yn y prawf maes yn werthfawr iawn ac yn helpu i wella'r astudiaeth i bawb. 

Beth sy'n digwydd fel rhan o TIMSS?

I'ch plentyn, mae cymryd rhan yn TIMSS yn golygu:

  • Cwblhau asesiad ar-lein rhyngweithiol mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
  • Llenwi holiadur byr am fywyd, ysgol a phrofiadau dysgu eich plentyn.

Nid oes angen i'ch plentyn baratoi nac adolygu cyn yr asesiad. 

I chi neu'ch cymar/partner:

  • Gofynnir i chi gwblhau holiadur ar-lein byr am eich teulu, amgylchedd dysgu eich plentyn, a rhywfaint o wybodaeth gefndir.

Beth yw manteision TIMSS?

Mae sawl mantais yn gysylltiedig â chymryd rhan yn TIMSS, i'ch plentyn ac i addysg yng Nghymru.

  • Bydd eich plentyn yn ein helpu i ddysgu mwy am ba mor dda mae ein system addysg yn gweithio.
  • Bydd eich plentyn yn cynrychioli Cymru mewn astudiaeth ryngwladol bwysig ac yn cael tystysgrif am wneud hynny.
  • Bydd eich plentyn yn ymarfer sgiliau ar gyfer sefyll profion mewn ffordd hamddenol heb lawer o bwysau.
  • Bydd eich plentyn yn cael y cyfle i ymarfer ei sgiliau mathemateg a gwyddoniaeth drwy asesiad ar-lein diddorol ac arloesol.

Preifatrwydd data a data personol

Ni fydd canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol yn cael eu cyhoeddi. Bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Yn yr holiadur, anogir disgyblion i roi atebion gonest. Fodd bynnag, mae croeso i ddisgyblion beidio ag ateb unrhyw gwestiwn/cwestiynau os nad ydynt yn dymuno ymateb.

I gael rhagor o wybodaeth am breifatrwydd data, gweler ein hysbysiadau.

Ewch i'n tudalen diogelu data

Cymorth TIMSS

Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch TIMSS Cymru

Scottish Government logo
Pearson logo
IEA logo
TIMSS 2027 logo