Y tîm

Mae Pearson UK, ar y cyd â'i bartner academaidd ar y prosiect hwn, UCL, wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth TIMSS 2027 yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru, a nhw yw Canolfan Genedlaethol yr Astudiaeth ar gyfer Cymru.

Dr Grace Grima

Dr Grace Grima

Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer TIMSS 2027
Cyfarwyddwr, Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr, Gwasanaethau Asesu Pearson

Rôl: Grace sy'n arwain y tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr yn Pearson. Hi sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am gynnal TIMSS 2027 yng Nghymru, gan sicrhau y caiff holl dasgau TIMSS eu cyflawni ar amser ac yn unol â'r safonau rhyngwladol a nodwyd. Bydd hefyd yn cydweithio â’r tîm o UCL, sy’n gyfrifol am ddadansoddi’r canlyniadau, adrodd arnynt a’u dosbarthu.

Cefndir: Yn ei rôl bresennol yn Pearson, mae Grace yn arwain astudiaethau asesu rhyngwladol ar raddfa fawr eraill yn ei rôl fel Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer TIMSS 2027 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban a TIMSS 2023 yn Lloegr, ac fel Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer PIRLS yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hi yw'r Rheolwr Prosiect Cenedlaethol ar gyfer PISA 2025 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Ymchwil yn Pearson UK (2014-2023), roedd ganddi gyfrifoldeb strategol am waith ymchwil ar gymwysterau academaidd a galwedigaethol a gwasanaethau dysgu i ysgolion, yn ogystal â rhoi'r agenda effeithiolrwydd ar waith yn y DU. Dechreuodd Grace ei gyrfa fel athrawes, hyfforddwr athrawon a phrif swyddog ymchwil ym mwrdd arholi Prifysgol Malta. Cwblhaodd ei hastudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Otago yn Seland Newydd, fel myfyriwr y Gymanwlad, a gweithiodd ar y Prosiect Monitro Addysgol Cenedlaethol (NEMP) yn yr Uned Ymchwil Asesu Addysgol fel rhan o'i doethuriaeth. Grace oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Ansawdd a Safonau'r Weinyddiaeth Addysg yn Malta (2007-2013) cyn symud i Pearson yn y DU.

Sarah Turner

Sarah Turner

Rheolwr Addasu a Chyfieithu a Rheolwr Sgorio
Arbenigwr Uwch, Pearson

Rôl: Sarah sy'n cydlynu'r gwaith o gyfieithu ac addasu offerynnau asesu rhyngwladol ac mae’n rheoli'r gwaith o sgorio ymatebion disgyblion.

Cefndir: Mae Sarah yn rheolwr prosiect sydd wedi cwblhau cymhwyster PRINCE2 ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ystod o gymwysterau ac offerynnau asesu risg uchel yn weithredol o'r dechrau i'r diwedd. Mae hyn yn cynnwys pedair blynedd yn arwain tîm a oedd yn gyfrifol am farcio dros 250,000 o sgriptiau arholiad TGAU Astudiaethau Crefyddol yn gywir a rheoli tîm o 1000 o farcwyr yn ystod y gyfres arholiadau pob haf. Bu Sarah yn rheoli’r gwaith o addasu a sgorio ar gyfer PIRLS 2016, 2021 a 2026, a TIMSS 2023, a bu’n rheoli’r gwaith addasu, cyfieithu a sgorio ar gyfer PISA 2025 a bydd yn rheoli’r gweithgareddau hyn ar gyfer TIMSS 2027.

Sarah Hazem

Sarah Hazem

Rheolwr Prosiect
Arbenigwr, Pearson

Rôl: Mae Sarah yn gyfrifol am reoli elfennau cyflawnadwy'r contract, cadw dogfennaeth y prosiect, rheoli risgiau, a sicrhau y cydymffurfir â phrosesau sicrhau ansawdd.

Cefndir: Mae Sarah yn Ymarferydd PRINCE2 gyda thros wyth mlynedd o brofiad ym maes rheoli prosiectau.Sarah yw'r rheolwr prosiect ar gyfer PIRLS 2026 a TIMSS 2027 yng Nghymru ar hyn o bryd. Cyn y rôl hon, roedd Sarah yn gyfrifol am raglen addysgol genedlaethol ar gyfer Gweinyddiaeth Addysg yr Aifft o 2018 tan 2022.

Mish Mohan

Mish Mohan

Rheolwr Data a Samplu Cenedlaethol
Arbenigwr Uwch, Pearson

Rôl: Mae Mish yn goruchwylio gweithgareddau sy'n ymwneud â systemau samplu, trin data a chyflawni asesiadau.

Cefndir: Mish yw’r Rheolwr Data a Samplu ar hyn o bryd ar gyfer TIMSS 2027 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, PIRLS 2026 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon,Lloegr a’r Alban a PISA 2025 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gan Mish dros 17 mlynedd o brofiad gyda Pearson, mewn rolau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweithrediadau a datblygu TG. Roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS 2016 a TIMSS 2019, gan sicrhau strategaeth samplu, ffrâm samplu a threfniadau cyflwyno data llwyddiannus.

Alistair Hooper

Alistair Hooper

Rheolwr Cymorth i Ysgolion a Dirprwy Reolwr Data
Arbenigwr Uwch, Pearson

Rôl: Mae Alistair yn cydlynu gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw ysgolion ac mae'n cefnogi'r gwaith rheoli data.

Cefndir: Mae Alistair wedi bod yn gweithio i Pearson ers dros 12 mlynedd. Roedd yn Rheolwr Data ar gyfer PIRLS 2021, ac yn Rheolwr Recriwtio Ysgolion ar gyfer TIMSS 2023, PISA 2025, PIRLS 2026 yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae'n cyflawni'r un rôl ar hyn o bryd ar gyfer TIMSS 2027 yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae wedi gweithio mewn sawl agwedd wahanol ar astudiaethau rhyngwladol, gan gynnwys samplu, rheoli data, cyfieithu, addasu, recriwtio ysgolion, a chadw, recriwtio Cydlynwyr Ysgol a Gweinyddwyr Prawf, yn ogystal â hyfforddi a chodio.

Lucian Lanteri

Lucian Lanteri

Rheolwr Gweinyddwyr Prawf
Arbenigwr Uwch, Pearson

Rôl: Lucian sy'n cydlynu'r gwaith o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf.

Cefndir: Mae Lucian yn rheolwr prosiect sydd wedi cwblhau cymhwyster PRINCE2 ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn Pearson o gyflwyno ac asesu cymwysterau risg uchel, gan gynnwys fel Pennaeth Asesu pynciau dyniaethau TAG a TGAU yn Pearson am naw mlynedd. Mae gan Lucian brofiad o recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf ar gyfer PISA 2022, PISA 2025, TIMSS 2023 a PIRLS 2026 yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Stacey Wilson

Stacey Wilson

Rheolwr Cymorth Cyflawni
Arbenigwr, Pearson

Rôl: Mae Stacey yn cydlynu gweithgareddau cyfranogiad a chadw ysgolion, gan sicrhau bod ysgolion yn parhau i ymgysylltu a chael eu cefnogi'n dda drwy gydol cylch oes pob astudiaeth.

Cefndir: Mae gan Stacey dros ddegawd o brofiad ym myd addysg a chynnal asesiadau. Gan ddefnyddio ei phrofiad blaenorol fel Swyddog Arholiadau, mae'n cyfuno dealltwriaeth ddofn o'r sector addysg ag arbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwella gwasanaethau. Yn fwy diweddar, mae wedi chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gyflwyno PIRLS 2026 a TIMSS 2027, gan arwain mentrau strategol i ymgysylltu ag ysgolion sy'n cryfhau cyfranogiad, yn gwella profiad ysgolion ac yn meithrin partneriaethau parhaus sy'n cefnogi canlyniadau llwyddiannus o ran ymchwil addysgol.

Beth Ryan

Beth Ryan

Rheolwr Cymorth Cyflawni
Arbenigwr, Pearson

Rôl: Mae Beth yn cydlynu gweithgareddau cyfranogiad a chadw ysgolion, gan sicrhau bod ysgolion yn parhau i ymgysylltu a chael eu cefnogi'n dda drwy gydol cylch oes pob astudiaeth.

Cefndir: Ymunodd Beth â Pearson yn 2021, gan oruchwylio a llywio'r strategaeth ansawdd ar draws yr Is-adran Asesu a Chymwysterau i ddechrau. Ers 2023, mae wedi chwarae rôl allweddol yn y gwaith o gyflwyno nifer o asesiadau rhyngwladol ar raddfa fawr, gan gynnwys TIMSS 2023, PISA 2025, PIRLS 2026 a TIMSS 2027. Gan ddefnyddio ei harbenigedd ym maes cyflawni prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwella prosesau, mae Beth wedi datblygu adnoddau a deunyddiau cymorth ar gyfer ysgolion, gan helpu i wella profiad y cyfranogwyr a sicrhau bod yr astudiaethau pwysig hyn yn cael eu cynnal yn llwyddiannus.

Chris Killey

Chris Killey

Rheolwr Cymorth Cyflawni
Arbenigwr, Rheoli Prosesau Cyflwyno Gwasanaethau, Pearson

Rôl: Mae Chris yn cefnogi'r tîm wrth recriwtio ysgolion a chynnal arholiadau

Cefndir: Ar ôl gyrfa yn addysgu, ymunodd Chris â Pearson fel Arweinydd Asesu yn Nhîm Asesiadau Rhyngwladol Pearson ac yn ddiweddarach ymunodd â'r Tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr fel rheolwr cymorth cyflawni. Mae wedi defnyddio ei brofiad addysgu i chwarae rôl allweddol yn y tîm Cymorth i Ysgolion ar gyfer yr astudiaethau PISA, PIRLS a TIMSS diweddar.

Catherine Williams

Catherine Williams

Rheolwr Cymorth Cyflawni
Arbenigwr, Rheoli Prosesau Cyflwyno Gwasanaethau

Rôl: Mae Catherine yn helpu i recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf

Cefndir: Ar ôl mwy nag 20 mlynedd fel athrawes ysgol uwchradd, ymunodd Catherine â Pearson i weithio fel Arweinydd Asesu yn Nhîm Asesu Ieithoedd Tramor Modern Rhyngwladol Pearson. Ymunodd â'r Tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr ar ddechrau 2025, gan weithio i ddechrau ar gefnogi ysgolion ar gyfer PISA 2025 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae Catherine bellach yn helpu i recriwtio, hyfforddi a rheoli Gweinyddwyr Prawf.

Marta Czajkowska

Marta Czajkowska

Rheolwr Cymorth Cyflawni
Arbenigwr Uwch, Pearson

Rôl: Mae Marta yn cefnogi ysgolion a rhanddeiliaid drwy gydol y broses o recriwtio ysgolion, gan gynnwys cysylltiadau â llywodraethau a Gweinyddwyr Prawf. Bydd Marta hefyd yn cefnogi'r broses rheoli data.

Cefndir: Yn y Tîm Asesiadau Rhyngwladol ar Raddfa Fawr, bu Marta yn helpu i recriwtio ysgolion a chodio/sgorio Prif Astudiaeth PISA 2025 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon; Prawf Maes TIMSS 2027 yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; a Phrif Astudiaeth PIRLS yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Cyn hynny, ailddatblygodd Marta gymwysterau rhyngwladol a domestig yn Pearson ac o fewn byrddau arholi eraill.

Adrian Brown

Yr Athro Jennie Golding

Athro polisi ac ymarfer mathemateg

Rôl: Jennie fydd Prif Ymchwilydd TIMSS 2027 Cymru, gan arwain pob agwedd ar ddadansoddi, adrodd a dosbarthu.

Cefndir: Mae gwaith ymchwil Jennie yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb polisi-ymarfer addysg mathemateg, gan sicrhau bod lleisiau athrawon a dysgwyr yn chwarae rhan ganolog a chan ddefnyddio ei phrofiad addysgu helaeth gyda dysgwyr 5-18 oed a thu hwnt. Mae ganddi ddylanwad eang ym maes datblygu polisi addysg cenedlaethol a rhyngwladol, gan anelu at gataleiddio polisi addysg mathemateg sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n helpu pob person ifanc i ffynnu o safbwynt mathemategol. Mae'n gwasanaethu ar sawl fforwm addysg cenedlaethol a rhyngwladol ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Fathemategol y DU; mae ei gwaith rhyngwladol mewn mathemateg, addysg athrawon a goruchwylio doethuriaethau wedi ennill sawl gwobr. Mae Jennie wedi cyfrannu at sawl astudiaeth ryngwladol ar raddfa fawr, gan gynnwys sawl iteriad o TIMSS a PISA, er enghraifft, drwy arwain gwaith dadansoddi ac adrodd TIMSS 2023 ar gyfer Lloegr.

Jon Wood

Dr Rachel Marks

UCL Athro Cyswllt mathemateg Athrofa Addysg UCL

Rôl: Bydd Rachel yn un o'r Prif Ymchwilwyr ar y Cyd ar gyfer TIMSS 2027 Cymru, gan gefnogi'r holl waith o arwain prosesau dadansoddi, adrodd a dosbarthu a gweithredu fel yr arbenigwr addysg gynradd a mathemateg.

Cefndir: Bu Rachel yn athrawes ysgol gynradd mewn ysgolion canol dinas ac ysgolion gwledig, cyn symud i faes Addysg Gychwynnol i Athrawon yn 2013, ac ers hynny, mae wedi datblygu portffolio ymchwil cryf ym maes mathemateg cynradd (a thu hwnt), gan ymuno ag UCL yn 2024. Hi sy'n arwain cymhwyster MA yr Athrofa Addysg mewn Addysg Fathemateg. Mae gan Rachel brofiad helaeth y cynnal gwaith ymchwil ar draws addysg fathemateg, gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol a chynnal adolygiadau llenyddiaeth ar raddfa fawr. Hi oedd un o Brif Ymchwilwyr ar y cyd y prosiect a gyllidwyd gan y Sefydliad Gwaddol Addysg "Effective approaches to teaching mathematics in Key Stages 3 and 4: A systematic review and meta-analysis".

Simon Abrams

Dr Hettie Burn

Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Athrawon ac Addysgu Athrofa Addysg UCL

Rôl: Bydd Hettie yn arwain pob agwedd ar ddadansoddi a chynrychioli data.

Cefndir: Mae Hettie yn arbenigo mewn methodolegau meintiol ar gyfer ymchwil addysg gan gynnwys hap-dreialon dan reolaeth a dulliau lled-arbrofol. Ar ôl cwblhau ei PhD mewn Economeg ym mis Mehefin 2025, mae Hettie wedi bod yn arwain neu'n cyfrannu at y dadansoddiadau o effaith ar gyfer yr “Astudiaeth Grwpio Myfyrwyr” a gyllidwyd gan y Sefydliad Gwaddol Addysg yn ogystal â'r gwerthusiad a gyllidwyd gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid, sef  “Grassroots: Evaluation of an anti-conflict intervention by cluster randomised controlled trial”. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio data gweinyddol a data arolygon i archwilio'r ffactorau sy'n ysgogi anghydraddoldebau o ran canlyniadau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys gwaith ymchwil ar dueddiadau graddio athrawon, addysgeg y blynyddoedd cynnar, a gwaharddiadau dros dro ac absenoldebau mewn ysgolion. Gyda chefndir academaidd yn Rhydychen a Harvard, bu Hettie yn athrawes fathemateg uwchradd yng Nghymru a Lloegr am bum mlynedd, ac mae bellach yn darparu hyfforddiant polisi ac economeg i adrannau o lywodraeth y DU ochr yn ochr â'i gwaith academaidd.

Adrian Brown

Christina Swensson

Un o Gymdeithion Athrofa Addysg UCL

Rôl: Christina fydd rheolwr prosiect camau dadansoddi, adrodd a dosbarthu TIMSS 2027 Cymru, a bydd yn cyfrannu at y cam ysgrifennu hefyd.

Cefndir: Mae Christina Swensson yn ddadansoddwr profiadol â chefndir academaidd mewn economeg a 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ymchwil addysg a dadansoddi. Mae ganddi brofiad sylweddol yn trefnu ac yn rheoli timau prosiect yn effeithiol. Mae hefyd yn arbenigo mewn cyflwyno canfyddiadau a dadansoddiadau ymchwil cymhleth i wneuthurwyr polisi, a rheoli a chyflwyno adroddiadau dadansoddol hygyrch a hawdd eu defnyddio sy'n dwyn ynghyd gyfraniadau gan ystadegwyr, ymchwilwyr cymdeithasol ac economegwyr. Mae gan Christina brofiad o reoli a chyflwyno adroddiadau ymchwil ar gyfer astudiaethau hydredol ar raddfa fawr, gan weithio yn y gorffennol ar TIMSS 2015, TIMSS 2019 a TIMSS 2023 yn Lloegr mewn rolau tebyg.

Jon Wood

Dr Iain Barnes

Un o Gymdeithion Athrofa Addysg UCL

Rôl: Prif awdur adroddiadau

Cefndir: Mae gan Iain brofiad helaeth ym maes ymchwil addysgol ac ysgrifennu ar lefel genedlaethol. Rhwng ei ddwy rôl fel pennaeth cynradd, bu'n gweithio fel rhan o grŵp ymchwil a pholisi'r Coleg Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgolion, lle bu'n ymgysylltu ag ystod eang o brojectau ymchwil cenedlaethol mewn perthynas ag arweinyddiaeth ysgolion. Mae ganddo brofiad sylweddol ym maes ymchwil addysgol mewn ysgolion drwy brojectau wedi'u comisiynu, gyda llawer ohonynt ar lefel genedlaethol.  Mae gan Iain hefyd brofiad ym maes dadansoddi meintiol ac ysgrifennu adroddiadau cenedlaethol fel cyd-awdur adroddiadau cenedlaethol TIMSS ar gyfer Lloegr yn 2015, 2019 a 2023, gan gefnogi'r holl waith ysgrifennu a dadansoddi cysylltiedig.

Cymorth TIMSS

Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch TIMSS Cymru

Welsh Government logo
Pearson logo
UCL logo
IEA logo
TIMSS 2027 logo