I ddisgyblion

Beth yw TIMSS?

TIMSS yw'r Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (sef Trends in International Mathematics and Science Study yn Saesneg). Mae'n astudiaeth fawr sy'n cael ei chynnal bob pedair blynedd i weld pa mor dda mae plant a phobl ifanc ledled y byd yn dysgu mathemateg a gwyddoniaeth. Yng Nghymru, mae disgyblion ym Mlwyddyn 5 (tua 9-10 oed) yn cymryd rhan.

Mae mwy na 60 o wledydd yn cymryd rhan yn TIMSS, felly mae'n ein helpu i gymharu pa mor dda mae disgyblion yng Nghymru yn ei wneud o gymharu â phlant mewn llawer o leoedd eraill ledled y byd. Mae hyn yn golygu y gallwn ddysgu beth rydym yn ei wneud yn dda mewn ysgolion, a chael gwybod ble y gallwn wella hefyd.

Mae eich ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn TIMSS. Byddwch yn ateb cwestiynau ar y cyfrifiadur am fathemateg a gwyddoniaeth. Nid yw hwn yn brawf y mae angen i chi astudio ar ei gyfer, dim ond gwneud eich gorau!

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau TIMSS i ddeall sut mae ysgolion yng Nghymru yn helpu disgyblion i ddeall ac i wneud penderfyniadau o ran sut i wella prosesau addysgu a dysgu i bawb. Mae hefyd yn helpu athrawon ac ysgolion i weld syniadau newydd o wledydd eraill sydd wedi cael canlyniadau da.

Felly, drwy gymryd rhan yn TIMSS, rydych yn helpu i wella ysgolion yng Nghymru i bob disgybl nawr ac yn y dyfodol!

Cymryd rhan yn TIMSS

Caiff yr astudiaeth ei chynnal fel rhan o'r diwrnod ysgol arferol a gofynnir i chi ateb rhai cwestiynau mathemateg a gwyddoniaeth ar gyfrifiadur. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i baratoi nac ymarfer ymlaen llaw. Mae'n syniad da dod â llyfr gyda chi rhag ofn y byddwch chi'n gorffen yn gynnar.

Er mwyn diolch i chi am gymryd rhan, byddwch yn cael tystysgrif gan Lywodraeth Cymru.

Beth sydd wedi'i gynnwys yn yr asesiad?

Mae TIMSS yn cynnwys prawf mathemateg a gwyddoniaeth, wedi'i ddilyn gan holiadur byr.

Edrychwch ar asesiad enghreifftiol

Preifatrwydd data a data personol

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y caiff eich data eu defnyddio, gallwch weld ein hysbysiadau.

Ewch i'n tudalen diogelu data

Cysylltu

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth, gallwch ofyn i Dîm Cymorth TIMSS. Mae'r tîm yn fwy na pharod i helpu!

Cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2015 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch TIMSS Cymru

Scottish Government logo
Pearson logo
IEA logo
TIMSS 2027 logo