Cwestiynau Cyffredin
Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, sef “TIMSS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth pan fyddant yn 10 oed, neu ym Mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pedair blynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae TIMSS yn cynnwys holiaduron i athrawon, penaethiaid, a rhieni/gofalwyr, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu mathemateg a gwyddoniaeth, ac amgylchedd yr ysgol a'r cartref.
Caiff TIMSS ei chynnal mewn dau gam, sef prawf maes a phrif astudiaeth, a chaiff ysgolion gwahanol eu dewis ar gyfer pob cam. Mae'r prawf maes (Mawrth 2026) yn cynnwys sampl lai o ysgolion a disgyblion na'r brif astudiaeth (2027). Mae'r prawf maes yn sicrhau bod asesiadau, holiaduron a phrosesau TIMSS 2027 yn gweithio cystal â phosibl cyn cynnal y brif astudiaeth – felly mae'n rhan bwysig a dylanwadol iawn o'r astudiaeth.
3) Pryd y caiff y prawf maes ei gynnal?
Caiff yr astudiaeth ei chynnal ym mis Mawrth 2026, gyda sampl o ddisgyblion Blwyddyn 5.
Yn yr e-bost croeso a anfonir at eich ysgol, byddwn yn awgrymu dyddiad i'r astudiaeth gael ei chynnal yn eich ysgol. Gobeithio bydd y dyddiad hwn yn gyfleus i'ch staff a'ch disgyblion, ac y gellir trefnu bod ystafell(oedd) addas ar gael. Os na fydd y dyddiad hwn yn addas am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn aildrefnu amser sy'n gyfleus i chi.
4) Pam mae fy ysgol wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn TIMSS?
Yn dilyn proses samplu drwyadl, mae eich ysgol wedi cael ei dewis ar hap i gymryd rhan yn TIMSS gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Gwerthuso Cyflawniad Addysgol (IEA). Un o ofynion yr astudiaeth yw sicrhau bod y sampl o ysgolion sy'n cymryd rhan yn cynrychioli ysgolion yng Nghymru. Dim ond ysgolion a gaiff eu dewis drwy'r dull hap-samplu y gallwn gysylltu â nhw, er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n dangos cynrychiolaeth wirioneddol o'r ystod lawn o ysgolion yng Nghymru o ran maint, lleoliad a'r math o ysgol. Gweler gwefan TIMSS IEA i gael gwybodaeth fanwl am fethodoleg yr astudiaeth.
5) Pam mae Cymru yn cymryd rhan yn TIMSS?
Mae TIMSS yn astudiaeth ryngwladol fawr sy'n mesur pa mor dda mae disgyblion yn dysgu mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Drwy gymryd rhan, gall Cymru weld pa mor dda mae ein disgyblion yn perfformio o gymharu â disgyblion mewn gwledydd eraill, gan ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a ble y gallwn wella.
Mae TIMSS hefyd yn dangos sut mae cyflawniad yn newid dros amser ac yn nodi'r ffactorau sy'n dylanwadu ar berfformiad disgyblion. Mae'n rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am bolisïau ac arferion gwledydd eraill, gan ein helpu i wneud penderfyniadau gwybodus i wella prosesau dysgu ac addysgu.
Mae cymryd rhan yn TIMSS yn dangos ymrwymiad Cymru i wella safonau mathemateg a gwyddoniaeth ac i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
6) Beth yw manteision cymryd rhan yn yr astudiaeth i'ch ysgol?
Mae'r ysgolion a'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn TIMSS yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y broses o ddeall ein system addysg a dim ond drwy'r cyfranogiad hwn y gallwn wireddu'r cyfleoedd y mae TIMSS yn eu cynnig i wella ein polisïau a'n harferion addysgol. Drwy gymryd rhan yn TIMSS, byddwch yn gwneud y canlynol:
7) Sut y caiff eich cyfraniad ei gydnabod?
I ddiolch i chi am eich cymorth, bydd disgyblion yn cael tystysgrif cyfranogiad.
Er mwyn cydnabod eich cyfraniad gwerthfawr, bydd eich ysgol hefyd yn cael tâl gweinyddu. Caiff ffurflen tâl ei hanfon atoch oddi wrth dîm cymorth TIMSS.
8) A fydd angen i staff yr ysgol oruchwylio'r astudiaeth?
Na fydd, bydd Canolfan Genedlaethol yr Astudiaeth (Pearson) yn darparu Gweinyddwr Prawf a fydd yn dod i'r ysgol ar ddiwrnod yr asesiad ac a fydd yn gyfrifol am gynnal yr astudiaeth. Mae'r Gweinyddwyr Prawf yn weithwyr addysg proffesiynol profiadol, sy'n gyn-athrawon yn aml, ac mae gan bob un ohonynt dystysgrif fanylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sy'n sicrhau bod ein staff yn cydymffurfio â'r canllawiau diweddaraf. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi sicrhau bod aelod o staff yr ysgol ar gael i aros yn yr ystafell yn ystod yr asesiad.
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r Gweinyddwyr Prawf yn ymweld â'ch ysgol, cysylltwch â Thîm Cymorth TIMSS i drafod hyn.
9) Sut y byddaf yn gwybod pa ddosbarth/dosbarthiadau sydd wedi cael ei ddewis/eu dewis?
Bydd Tîm Cymorth TIMSS yn rhoi gwybod i chi pa ddosbarth/dosbarthiadau a ddewiswyd. Un dosbarth gaiff ei ddewis yn y rhan fwyaf o ysgolion, ond bydd dau ddosbarth yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhai ysgolion mawr. Noder ei bod yn bosibl na chaiff pob disgybl yn y grŵp blwyddyn ei ddewis i gymryd rhan yn yr asesiadau. Mae'n bwysig bod pob disgybl sy'n rhan o'r sampl yn ymgymryd â'r asesiad. Fodd bynnag, os byddai unrhyw ddisgyblion yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan, gellir cymhwyso meini prawf eithrio. Byddwn yn anfon canllawiau manwl i chi ar eithriadau i'ch helpu i wneud y penderfyniadau hyn.
10) Beth sydd wedi'i gynnwys yn yr asesiad?
Bydd disgyblion yn cwblhau asesiad mathemateg a gwyddoniaeth cyfrifiadurol rhyngweithiol sy'n cwmpasu ystod eang o gynnwys a meysydd pwnc sy'n berthnasol i'w hoedran, wedi'i ddilyn gan arolwg byr. Dyluniwyd yr asesiad i brofi gwybodaeth disgyblion am fathemateg a gwyddoniaeth. Bydd yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ymateb agored ac ymateb caeëdig. Gofynnir i ddisgyblion a staff hefyd gwblhau holiadur ar-lein er mwyn rhoi gwybodaeth gyd-destunol bwysig i ategu data'r asesiad:
Gellir gweld enghreifftiau o'r asesiadau a'r holiaduron ar wefan TIMSS 2023. (Nodwch mai “Grade 4” sy'n cyfateb i Flwyddyn 5 yn enghreifftiau IEA. Mae IEA hefyd yn cynnwys enghreifftiau ar gyfer “Grade 8”. Nid yw Cymru yn cymryd rhan yn yr elfen hon.)
11) A all disgyblion ymgymryd â'r astudiaeth yn Gymraeg?
Gallant, caiff y prawf ei gynnal yn iaith yr ysgol. Pan fyddwch yn cyflwyno manylion am y disgyblion, gofynnir i chi gadarnhau ym mha iaith y dylid cynnal y prawf. Ar gyfer ysgolion dwyieithog neu ysgolion â ffrydiau iaith deuol, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar yr iaith fwyaf priodol ar gyfer y dysgwyr dan sylw.
12) Am ba hyd y bydd yr astudiaeth yn para?
Bydd y broses gyfan yn cymryd tua tair awr, gan gynnwys yr asesiad, yr holiadur, ac egwylion. Nid oes angen i ddisgyblion baratoi ymlaen llaw nac adolygu. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anelu at gwblhau'r astudiaeth yn y bore, ond gallwn ddechrau'n hwyrach os bydd angen er mwyn cyd-fynd â'ch amserlen.
Mae'r asesiad wedi'i rannu'n ddwy sesiwn a bydd yn cymryd tua awr a deg munud. Ar ôl egwyl o 5-10 munud, bydd y disgyblion yn cwblhau holiadur ar-lein, a fydd yn cymryd tua 25 munud.
Bydd ein Gweinyddwr Prawf yn cyrraedd awr cyn yr amser dechrau i baratoi a dylai Cydlynydd yr Ysgol (athro i gynrychioli'r ysgol a fydd yn cefnogi'r broses gyflawni) anelu at gyrraedd ar yr un pryd. Byddem yn gwerthfawrogi lle parcio ar safle'r ysgol, os oes lleoedd parcio ar gael.
Gellir cwblhau'r holiadur i ysgolion a'r holiadur i athrawon ar-lein ymlaen llaw ac maent yn cymryd tua 30 munud yr un. Caiff cyfarwyddiadau yn esbonio sut i gael gafael ar yr holiadur eu hanfon at Gydlynydd yr Ysgol i'w rhannu â'r staff.
Os caiff dau ddosbarth eu dewis, gellir eu hasesu ar yr un pryd, neu un dosbarth yn y bore ac un ar ôl cinio, gan ddibynnu ar y cyfleusterau TG sydd ar gael. Bydd Tîm Cymorth TIMSS yn rhoi arweiniad i ysgolion sydd â dau ddosbarth.
13) A oes angen i'r disgyblion ddod ag unrhyw beth gyda nhw neu baratoi?
Nid oes angen paratoi na gwneud unrhyw waith adolygu ymlaen llaw er mwyn i ddisgyblion allu cwblhau'r asesiad; a phrin fydd y gwaith gweinyddol y bydd angen i staff yr ysgol ei gyflawni.
Dylai disgyblion ddod â llyfr i'w ddarllen yn dawel rhag ofn y byddant yn gorffen yr asesiad yn gynnar.
14) Ble y dylid cynnal yr astudiaeth?
Bydd angen cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd ar y disgyblion, ynghyd â bysellfwrdd a llygoden er mwyn cwblhau'r astudiaeth. Mae ystafell TG, neu ddwy yn dibynnu ar nifer y disgyblion, yn ddelfrydol, neu fel arall gellir defnyddio ystafell ddosbarth gyda gliniaduron. Dylai'r ystafell TG neu'r ystafell ddosbarth a ddefnyddir fod yn dawel ac ni ddylai gynnwys unrhyw beth a all dynnu sylw'r disgyblion.
Os nad oes gan eich ysgol ddigon o gyfrifiaduron mewn ystafelloedd TG neu liniaduron i'w defnyddio mewn ystafell ddosbarth, gellir darparu gliniaduron ychwanegol. Os bydd angen rhagor o liniaduron arnoch er mwyn cynnal yr asesiadau, cysylltwch â Thîm Cymorth TIMSS.
15) A fydd angen i mi drefnu'r cyfleusterau TG a'r Wi-Fi er mwyn i fy nisgyblion sefyll y profion?
Bydd, ond nid oes fawr ddim gwaith trefnu a bydd Pearson yn cefnogi pob ysgol drwy gydol y broses.
Caiff yr asesiadau eu hagor ar y rhyngrwyd gan ddefnyddio manylion mewngofnodi diogel ac felly bydd angen Wi-Fi/cysylltiad â'r rhyngrwyd er mwyn i ddisgyblion allu cwblhau'r asesiad a'r holiadur. Bydd angen gliniadur neu gyfrifiadur ar bob disgybl am hyd at 3 awr (gan gynnwys egwylion). Os byddwch yn defnyddio gliniaduron, dylid eu gwefru'n llawn cyn diwrnod yr astudiaeth.
Byddwn yn gweithio'n agos â'r Cydlynydd Ysgol a'r Cydlynydd TG a enwebwyd gennych cyn diwrnod yr asesiad er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau TG yn eich ysgol wedi'u trefnu'n briodol. Bydd angen rhedeg prawf awtomataidd 5 munud o hyd ar un o gyfrifiaduron yr ysgol ymlaen llaw er mwyn cadarnhau bod y system yn gweithio, a byddwn yn darparu dolen ar gyfer hyn.
Hefyd, os yw'n bosibl, bydd angen i chi sicrhau bod eich Cydlynydd TG ar gael ar ddiwrnod yr asesiad er mwyn helpu gydag unrhyw broblemau a allai godi.
16) Beth yw prif ddyletswyddau Cydlynydd TIMSS yr Ysgol?
Bydd Tîm Cymorth TIMSS yn helpu Cydlynydd TIMSS eich ysgol drwy gydol y broses ac yn anelu at sicrhau bod cyn lleied o waith gweinyddol â phosibl. Yn aml caiff athro dosbarth Blwyddyn 5, cynorthwyydd addysgu, neu swyddog arholiadau ei ddewis ar gyfer y rôl. Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnal yr astudiaeth mewn ffordd debyg ym mhob ysgol, mae'n bosibl y bydd swyddog monitro ansawdd yn mynychu eich sesiwn brofi. Os felly, bydd yn gofyn cwestiynau i Gydlynydd yr Ysgol am y trefniadau y bu'n rhaid i chi eu gwneud ac yn gofyn eich barn am y ffordd y cafodd yr astudiaeth ei threfnu.
17) Sut y caiff disgyblion a rhieni eu hysbysu am yr astudiaeth?
Gellir rhoi gwybod i ddisgyblion am yr astudiaeth yn ystod y dyddiau cyn yr asesiad. Byddwn yn darparu templed o lythyr i chi ei anfon at eu rhieni a'u gofalwyr. Caiff y templedi hyn eu hanfon atoch drwy e-bost er mwyn i chi allu eu golygu fel y bo angen a'u hargraffu neu eu dosbarthu'n electronig. Byddwn hefyd yn darparu llythyr i chi ar breifatrwydd data y mae'n rhaid ei gynnwys gyda'ch llythyr at rieni ac ni ddylid ei addasu. Dylid anfon y llythyrau unwaith y byddwn wedi cadarnhau'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth (nid cyn hynny).
Gall rhieni a gofalwyr gael gwybod mwy ar ein tudalen i rieni a gofalwyr.
18) A fydd y canlyniadau yn aros yn gyfrinachol?
Byddant, bydd manylion adnabod disgyblion ac ysgolion yn aros yn gyfrinachol ac ni chaiff canlyniadau ysgolion na disgyblion unigol eu cyhoeddi. Caiff y data a gaiff eu rhannu â threfnydd yr astudiaeth ryngwladol eu rhoi dan ffugenw: caiff manylion am ddisgyblion ac ysgolion eu dileu a defnyddir cod yn eu lle, fel na fydd modd adnabod unrhyw ysgolion na disgyblion unigol. Ni fydd y llywodraeth nac unrhyw sefydliad a gaiff ganiatâd i weld y data at ddibenion gwaith cymharu neu waith ymchwil rhyngwladol yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n cynnwys manylion adnabod unrhyw unigolion neu ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth na manylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod.
19) Sut bydd yr astudiaeth yn diogelu data fy ysgol?
Rydym yn cymryd diogelwch data o ddifrif ac yn dilyn Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu ei chadw'n ddiogel ac ni fydd unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad yn cynnwys manylion adnabod unrhyw ddisgyblion neu ysgolion unigol nac unrhyw fanylion sy'n golygu bod modd eu hadnabod.
20) Ble galla i gael cymorth/ rhagor o wybodaeth?
Gellir cysylltu â Thîm Cymorth TIMSS rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023, neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com