Gwybodaeth am TIMSS

TIMSS 2027 Cymru
Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth
Canolfan Ymchwil Genedlaethol Cymru

Beth yw TIMSS?

Astudiaeth gymharol ryngwladol yw'r Astudiaeth o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth, sef “TIMSS”, ac mae'n asesu ac yn cymharu perfformiad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth pan fyddant yn 10 oed, neu ym Mlwyddyn 5 yng Nghymru, bob pedair blynedd ar draws oddeutu 60 o wledydd. Mae'n darparu data y gellir eu cymharu'n rhyngwladol ar gyflawniad disgyblion mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a'r cysylltiad rhwng eu perfformiad a'u hagweddau, eu rhywedd a'u cefndir. Yn ogystal, mae TIMSS yn cynnwys holiaduron i athrawon, penaethiaid, a rhieni/gofalwyr, sy'n cynnig safbwynt gwerthfawr ar addysgu mathemateg a gwyddoniaeth, ac amgylchedd yr ysgol a'r cartref.

Pupils working together in a lesson

Beth sydd wedi'i gynnwys yn TIMSS?

Beth sydd wedi'i gynnwys yn TIMSS?

  • Mae TIMSS yn cynnwys pum rhan yng Nghymru:
  • Asesiad mathemateg a gwyddoniaeth ar sgrin i ddisgyblion
  • Holiadur cefndir i ddisgyblion
  • Holiadur i athrawon
  • Holiadur i ysgolion i benaethiaid
  • Holiadur i gartrefi i rieni/gofalwyr

I gael rhagor o wybodaeth a dolenni i eitemau enghreifftiol, gweler ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Sut y caiff TIMSS ei chynnal?

Caiff TIMSS ei chynnal gan Ganolfan Genedlaethol yr Astudiaeth ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan. Mae Pearson, ar y cyd â'i bartner academaidd UCL, wedi cael eu penodi'n Ganolfan Genedlaethol Astudiaeth TIMSS 2027 ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cymru. Bydd Pearson yn gweithio gydag ysgolion i gynnal yr astudiaeth, gan reoli'r gwaith o weinyddu, prosesu a sgorio asesiad TIMSS 2027, a bydd UCL yn canolbwyntio ar ddadansoddi'r data ar gyfer yr astudiaeth.

Dewch i gwrdd â'r tîm

Cymorth TIMSS

Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch TIMSS Cymru

Scottish Government logo
Pearson logo
IEA logo
TIMSS 2027 logo