Diogelu data

Pa wybodaeth a gaiff ei chasglu a pham?

Mae Pearson UK, ar y cyd â'i bartner academaidd ar y project hwn, UCL, wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaeth TIMSS 2027 yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae preifatrwydd a diogelwch data'r bobl ifanc a'r ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw yn bwysig iawn i ni ac ni fydd modd adnabod unrhyw ddisgybl, athro, pennaeth nac ysgol unigol mewn unrhyw adroddiadau.

Byddwn yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae disgyblion wedi'i ddysgu am fathemateg a gwyddoniaeth o'u hatebion i gwestiynau asesiad TIMSS. Byddwn hefyd yn eu holi am wybodaeth gyd-destunol, megis cwestiynau am eu bywyd gartref a'u diddordeb mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Os bydd unrhyw gwestiynau na fydd disgyblion am eu hateb, gallant eu gadael yn wag.

Byddwn yn defnyddio manylion ysgolion, penaethiaid ac athrawon i bersonoli deunyddiau astudio ysgolion ac i ohebu ag ysgolion drwy gydol y project. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau i athrawon a phenaethiaid ysgolion sy'n cymryd rhan am eu hysgol, strategaethau addysgu ac amgylchedd dysgu'r ysgol.

Byddwn yn holi rhieni/gofalwyr amdanyn nhw eu hunain ac am amgylchedd dysgu gartref eu plant.

Ni fyddwn yn cyhoeddi'r atebion i unrhyw gwestiwn, ac ni fydd modd adnabod unrhyw ddisgybl, rhiant/gofalwr, ysgol, athro na phennaeth mewn unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad.

Dyma enghreifftiau o'r math o gwestiynau a gaiff eu cynnwys yn astudiaeth TIMSS a'r holiaduron cyd-destun i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion.

Ewch i wefan TIMSS i weld enghreifftiau o gwestiynau a holiaduron cyd-destun a ddefnyddir yn astudiaeth TIMSS.

Edrychwch ar holiaduron cyd-destun a ddefnyddir yn astudiaeth TIMSS

Sut rydym yn defnyddio data personol

At ddibenion y gwaith ymchwil hwn, bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr cymeradwy yn cysylltu'r wybodaeth â gwybodaeth arall sydd ganddynt eisoes neu y gellir cael gafael arni'n gyfreithlon o ffynonellau eraill. Diben hyn yw osgoi gofyn i gyfranogwyr dro ar ôl tro am wybodaeth sydd gennym eisoes a gallu dadansoddi manteision tymor hwy dysgu cynnar. Mae hysbysiadau preifatrwydd llawn ar gael gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Hysbysiadau preifatrwydd llawn

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer TIMSS 2027:

Cymorth TIMSS

Rydym yma i gefnogi ysgolion a disgyblion pan fyddant yn cymryd rhan yn TIMSS.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0207 010 2023 neu drwy e-bostio TIMSSCymru@pearson.com unrhyw bryd.

E-bostiwch TIMSS Cymru

Scottish Government logo
Pearson logo
IEA logo
TIMSS 2027 logo